Forest Green 3-0 Wrecsam

  • 18 Mawrth 2017
Liam Noble Image copyright Rex Features

Sicrhaodd Forest Green fuddugoliaeth gyfforddus yn erbyn Wrecsam wrth iddyn nhw fynd yn hafal ar frig y Gynghrair Genedlaethol.

Rhoddodd Dale Bennett y tîm cartref ar y blaen ar drothwy hanner amser, cyn i Liam Noble rwydo'r ail yn fuan wedi'r egwyl gyda chic o'r smotyn.

Ychwanegodd Christian Doidge y drydedd gydag hanner awr i fynd.

Mae'r canlyniad yn golygu bod Wrecsam yn aros yn 10fed yn y tabl.