Bournemouth 2-0 Abertawe

benik afobe Image copyright Getty Images
Image caption Benik Afobe yn dathlu ail gôl Bournemouth

Benik Afobe oedd y seren i Bournemouth wrth i Abertawe golli gêm oddi cartref yn yr Uwch Gynghrair am y bedwaredd gwaith yn olynol.

Fe aeth y tîm cartref ar y blaen ar ôl hanner awr wrth i ergyd yr ymosodwr wyro oddi ar Alfie Mawson i gefn y rhwyd.

Bu'n rhaid i Artur Boruc fod ar ei orau i atal Gylfi Sigurdsson rhag unioni'r sgôr yn fuan wedi hynny, ond oni bai am yr ergyd honno ychydig o gyfleoedd da a greodd Abertawe.

Cyfforddus

Roedd golwr yr Elyrch, Lukasz Fabianski yn parhau i fod yn brysur yn yr ail hanner, gan arbed ergydion oddi wrth Dan Gosling, Joshua King a Ryan Fraser.

Er i Luciano Narsingh ddod oddi ar y fainc i geisio newid y gêm, cipiodd Bournemouth eu hail gydag Afobe yn tanio unwaith eto gydag ugain munud i fynd.

Bu bron i'r tîm cartref gael trydedd, ond llwyddodd Fabianski i arbed yn dda o beniad King.

Mae'r canlyniad yn golygu bod Abertawe yn llithro i'r 17eg safle yn dilyn buddugoliaeth Crystal Palace yn gynharach, ac maen nhw'n parhau i fod tri phwynt yn uwch na safleoedd y cwymp.