Merched Ffrainc 39-19 Merched Cymru

Jasmine Joyce Image copyright Huw Evans agency

Colli oedd hanes tîm rygbi merched Cymru yn eu gornest olaf yn y Chwe Gwlad eleni, wrth i Ffrainc sgorio pum cais yn eu herbyn yn Brive.

Fe aeth y crysau cochion ar y blaen yn gynnar yn y gêm drwy gais Shona Powell-Hughes.

Ond ar ôl i Jessy Tremouliere gicio Ffrainc ar y blaen, cafwyd ceisiau gan Audrey Forlani, Caroline Ladagnous, Caroline Boujard, Patricia Carricaburu a Tremouliere ei hun.

Sgoriodd y prop Amy Evans ddau gais dros Gymru, sydd yn gorffen yn bumed yn y tabl eleni ar ôl ennill un o'u pum gêm.