Hoci iâ: Devils Caerdydd yn ennill y Gynghrair Elît

  • 19 Mawrth 2017
Devils Caerdydd Image copyright Wales News Service

Mae tîm hoci iâ Devils Caerdydd wedi ennill y Gynghrair Elît am y tro cyntaf mewn 20 mlynedd ar ôl trechu Sheffield Steelers o 6-2.

Yr un tîm gafodd eu trechu gan Gaerdydd pan lwyddon nhw i gipio'r Cwpan Her yn gynharach yn y mis.

Sgoriodd Mark Richardson a Patrick Asselin i roi'r Devils ar y blaen, cyn i Ben O'Connor gipio un nôl i'r tîm cartref.

Yna fe aeth Caerdydd 4-1 ar y blaen diolch i Joey Martin a Sean Bentivoglio, ac er i Geoff Walker rwydo ail i Sheffield rhoddwyd yr eisin ar y gacen gan Andrew Lord a Patrick Bordelau.