Plentyn yn yr ysbyty wedi gwrthdrawiad yn Sir Benfro

Heol Sydney Rees Image copyright Google
Image caption Digwyddodd y gwrthdrawiad ar Heol Sydney Rees, Hwlffordd

Mae plentyn wedi cael ei gludo i'r ysbyty ag anafiadau difrifol yn dilyn gwrthdrawiad gyda fan yn Hwlffordd, Sir Benfro.

Dywedodd Heddlu Dyfed Powys bod fan Ford Transit gwyn wedi taro tri cherddwr - oedolyn benywaidd a dau o blant - ar Heol Sydney Rees am 15:45 brynhawn Sul.

Y gred yw bod un o'r plant gafodd eu cludo i Ysbyty Llwynhelyg ag anafiadau difrifol, ac mae'r ddynes a'r plentyn arall hefyd wedi cael triniaeth yno am fân anafiadau.

Mae'r ffordd wedi ei chau yn dilyn y digwyddiad, ac mae'r heddlu wedi apelio ar unrhyw dystion i gysylltu â nhw ar 101.