Cynghorau yn croesawu arwyddo bargen ddinesig

Carwyn Jones a Theresa May yn cyfarfod i arwyddo'r fargen a thrafod Brexit Image copyright Llywodraeth Cymru
Image caption Carwyn Jones a Theresa May yn cyfarfod i arwyddo'r fargen a thrafod Brexit

Mae arweinwyr cynghorau de-orllewin Cymru wedi croesawu arwyddo Bargen Ddinesig Bae Abertawe.

Cafodd y fargen ei chadarnhau gan arweinwyr y DU a Chymru - Theresa May a Carwyn Jones - ddydd Llun.

Mae'r prosiect yn canolbwyntio ar ddatblygu technoleg y rhanbarth, gan gynnwys mewn sectorau fel ynni.

Pedwar awdurdod lleol sy'n rhan o'r ardal - Abertawe, Sir Gaerfyrddin, Castell-nedd Port Talbot a Sir Benfro.

'Hanesyddol'

Fe ddywedodd arweinydd Cyngor Abertawe, Rob Stewart - sy'n arwain y prosiect - bod dydd Llun yn "ddiwrnod hanesyddol".

"Bydd y Fargen Ddinesig yn gwella bywydau pobl yn drwy greu hyd at 10,000 o swyddi a buddsoddi mewn technoleg o'r radd flaenaf a fydd yn chwyldroi'r modd y mae sectorau megis ynni, gofal cymdeithasol, gofal iechyd ac entrepreneuriaeth yn cael eu darparu a'u cefnogi yma", meddai.

Ychwanegodd y byddai'r fargen yn creu "seilwaith digidol sy'n torri tir newydd" fyddai'n "hwb" i fusnesau.

Yn ôl Mark James, prif weithredwr Dinas-ranbarth Bae Abertawe a Chyngor Sir Caerfyrddin, bydd y rhanbarth yn "arloesi".

Dywedodd y byddan nhw'n arwain o ran "datblygu a masnacheiddio atebion i rai o'r heriau mwyaf ym meysydd gwyddorau bywyd, ynni, gweithgynhyrchu clyfar, a rhwydweithiau digidol".

Yn ardal Cyngor Castell-nedd Port Talbot, bydd y Fargen Ddinesig yn ariannu canolfan ymchwil i wyddorau dur.

Mae Port Talbot yn gartref i waith dur Tata, sy'n cyflogi tua 4,000 o bobl.

"Rwyf yn arbennig o falch o weld fod pecyn y fargen ddinesig yn cynnwys prosiectau i gefnogi swyddi presennol a thyfu cadwyni ynni yn ein busnesau a'n diwydiannau, gan gynnwys ym meysydd dur, adeiladu a pheirianneg", meddai Ali Thomas, arweinydd y cyngor.

Canolfan ynni morol

Bydd canolfan ynni morol yn cael ei sefydlu yn Aberdaugleddau, Sir Benfro, mewn buddsoddiad gwerth tua £76m.

"Mae'r cyhoeddiad hwn yn benllanw blynyddoedd o waith caled gan Arweinwyr, Prif Weithredwyr, a swyddogion nid yn unig o awdurdodau lleol y rhanbarth, ond hefyd o brifysgolion, byrddau iechyd, a'r sector preifat", meddai Jamie Adams, arweinydd Cyngor Sir Penfro.

"Bydd yn gwneud cyfraniad hollbwysig i economi Cymru; gan gynyddu cynhyrchiant, potensial allforio, a chyfleoedd cyflogaeth fedrus ar gyfer heddiw ac ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol."