Tom Lawrence allan o garfan Cymru gydag anaf

Tom Lawrence Image copyright Huw Evans agency

Mae Tom Lawrence wedi tynnu allan o garfan Cymru ar gyfer y gêm dyngedfennol yng Ngweriniaeth Iwerddon nos Wener gydag anaf.

Mae'r ymosodwr, sydd ar fenthyg gydag Ipswich o Gaerlŷr, wedi sgorio naw gôl yn y Bencampwriaeth y tymor yma.

Mae Lawrence, 23, wedi cynrychioli ei wlad ar bedwar achlysur, ac roedd nifer o gefnogwyr yn credu y dylai ddechrau yn Stadiwm Aviva nos Wener oherwydd ei berfformiadau i'w glwb.

Chwaraewr canol-cae Lerpwl, Harry Wilson sydd wedi ei alw i'r garfan yn ei le.

Fe fydd 3,300 o gefnogwyr Cymru yn y stadiwm ar gyfer y gêm yn Nulyn, gyda disgwyl i nifer fawr deithio i'r ddinas.

Ar hyn o bryd mae'r Gwyddelod ar frig y grŵp rhagbrofol gyda 10 pwynt, tra bo Cymru'n drydydd ar chwe phwynt.

Image copyright Getty Images
Image caption 0-0 oedd y sgôr y tro diwethaf i Gymru a Gweriniaeth Iwerddon gwrdd, ym mis Awst 2013

Gweddill gemau Cymru yng Ngrŵp D:

  • Gweriniaeth Iwerddon v Cymru - dydd Gwener, 24 Mawrth
  • Serbia v Cymru - dydd Sul, 11 Mehefin
  • Cymru v Awstria - dydd Sadwrn, 2 Medi
  • Moldofa v Cymru - dydd Mawrth, 5 Medi
  • Georgia v Cymru - dydd Gwener, 6 Hydref
  • Cymru v Gweriniaeth Iwerddon - dydd Llun, 9 Hydref