Arestio llanc 12 oed wedi i wrthrych daro rheolwr

Gary Bowyer Image copyright Huw Evans picture agency
Image caption Cafodd Gary Bowyer ei daro ym munudau olaf y gêm ddydd Sadwrn

Mae bachgen 12 oed wedi ei arestio gan Heddlu Gwent ar ôl i wrthrychau daro rheolwr Blackpool yn ystod eu gêm yng Nghasnewydd ddydd Sadwrn.

Fe wnaeth clwb Casnewydd a'r Gymdeithas Bêl-droed ymchwilio wedi i Gary Bowyer gael ei daro wrth iddo sefyll ar ochr y cae yn Rodney Parade.

Dywedodd Bowyer wedi'r gêm ei fod wedi cael ei daro yn ei wyneb, a galwodd ar Gasnewydd a'r awdurdodau i weithredu yn erbyn y rhai oedd yn gyfrifol.

Mae'r bachgen wedi'i ryddhau ar fechnïaeth.

Dywedodd y clwb eu bod yn parhau i chwilio am fwy o droseddwyr yn dilyn y digwyddiad ym munudau olaf y gêm ddydd Sadwrn.

Fe wnaeth y Gymdeithas Bêl-droed hefyd gadarnhau eu bod wedi lansio ymchwiliad ac y byddan nhw'n gweithio gyda'r ddau glwb, yr heddlu a'r Gynghrair Bêl-droed.