Addo 'symleiddio' proses ystyriaeth triniaeth unigolion

Tabledi Image copyright Thinkstock

Bydd y broses o benderfynu os dylai unigolyn dderbyn cyffur neu driniaeth sy'n cael ei ystyried yn rhy ddrud yn cael ei symleiddio, yn ôl yr Ysgrifennydd Iechyd.

Mae Vaughan Gething wedi cyhoeddi y dylai byrddau iechyd seilio eu penderfyniadau ar effaith meddygol y cyffur ar yr unigolyn.

Cyn hyn roedd yn rhaid i gleifion brofi bod eu hamgylchiadau nhw'n eithriadol.

Bellach bydd panel o arbenigwyr yn gorfod bod yn hyderus bod unrhyw gyffur neu driniaeth sy'n cael ei ariannu yn cynrychioli gwerth am arian.

'Colli cyfle'

Yn ôl Llywodraeth Cymru, mae cyflwyno'r newidiadau, gafodd eu hargymell mewn adolygiad annibynnol, yn "gam arwyddocaol".

Ond mae rhai elusennau yn dweud bod y llywodraeth wedi "colli cyfle" i ailwampio system sydd wedi cael ei feirniadu gan rhai cleifion, ymgyrchwyr a gwleidyddion.

Os na fydd triniaethau'n cael eu cymeradwyo gan yr arbenigwyr, fe allai claf wneud cais unigol i'w bwrdd iechyd lleol i ariannu'r driniaeth drwy broses o'r enw Ceisiadau Cyllido Cleifion Unigol (IPFR).

Mae paneli arbenigol ym mhob bwrdd iechyd sy'n gyfrifol am dderbyn neu wrthod ceisiadau.

Image caption Dylai byrddau iechyd seilio eu penderfyniadau ar effaith meddygol y cyffur ar yr unigolyn, yn ôl Vaughan Gething

'Proses gymhleth'

Yn ôl y rhai sy'n feirniadol, mae'r broses yn rhy gymhleth o lawer ac anghyson ar draws Cymru.

Yn dilyn cytundeb gyda Plaid Cymru ar ôl etholiad y Cynulliad y llynedd, cyhoeddodd yr Ysgrifennydd Iechyd y byddai'r drefn yn cael ei adolygu.

Yn ôl yr adolygiad: "Roedd yna gleifion oedd yn flin neu'n rhwystredig, neu'n teimlo eu bod wedi cael tro gwael gan broses IPFR, ac nid oeddent yn deall sut yr oedd penderfyniadau yn cael eu gwneud, neu'n teimlo bod penderfyniadau yn annheg, neu wedi'u hysbysu'n wael, neu'n anghyson."

Edrychodd y panel ar y meini prawf sy'n cael eu defnyddio i benderfynu os oedd achos yn un "eithriadol" neu beidio.

Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais
Dywedodd Richard Pugh o Tenovus bod cyfle wedi ei golli

Ychwanegodd yr adolygiad bod hwn yn fater oedd yn poeni pobl fwy nag unrhyw beth arall.

"Bu i lawer iawn o bobl fynegi pryder bod cysyniad 'eithriadoldeb', a ddefnyddir ar gyfer gwneud penderfyniadau, yn ddryslyd ac annheg."

Mae'r adroddiad yn dweud bod cleifion yn aml yn teimlo nad oedden nhw yn deall ar ba sail yr oedd y penderfyniad yn cael ei wneud a bod diffinio'r gair "eithriadol" yn anodd.

Pryder arall oedd yr argraff bod penderfyniadau'r paneli IPFR gwahanol yn anghyson a bod paneli mewn rhai byrddau iechyd yn fwy tebygol o gymeradwyo rhai ceisiadau.

Mae rhai ymgyrchwyr yn galw am un panel IPFR cenedlaethol er mwyn sicrhau bod cleifion, lle bynnag y maent yn byw, yn cael eu trin yn gyfartal.

'Anghysondebau'

Daeth y panel i'r casgliad na fyddai hynny'n ymarferol ac y byddai'r baich gwaith ar un panel canolog yn ormodol.

Yn hytrach maent yn argymell bod angen monitro'r paneli ar lefel cenedlaethol a chofnodi unrhyw anghysondebau a phroblemau sy'n codi.

Dywedodd Mr Gething y bydd y newidiadau sydd wedi'u cyflwyno yn sgil yr adolygiad o fudd i fyrddau iechyd wrth iddyn nhw wneud penderfyniadau "sy'n gallu bod yn rhai sensitif a chymhleth iawn".

Image caption Dywedodd Rhun ap Iorwerth bod yr adolygiad yn "bwysig i gannoedd o gleifion sy'n mynd drwy'r broses bob blwyddyn"

Dywedodd llefarydd Plaid Cymru ar iechyd, Rhun Ap Iorwerth bod y blaid yn "edrych ymlaen at weld sut mae'r llywodraeth yn ymateb i'r adolygiad".

"Roedd sicrhau'r adolygiad hwn yn bwysig i gannoedd o gleifion sy'n gorfod mynd drwy'r broses hon bob blwyddyn, ond nawr yw'r amser ar gyfer cyflwyno newidiadau sy'n cael eu hargymell," meddai.

"Bydd newid y prawf 'eithriadol' annheg gyda phrawf 'budd clinigol sylweddol' yn helpu mwy o gleifion gael y driniaeth sydd ei angen arnynt.

"Rydym hefyd yn falch bod yr adolygiad yn cytuno â Phlaid Cymru fod gormod o anghysondebau yn y gorffennol rhwng byrddau iechyd yng Nghymru, ac yn credu fod cynigion yr adolygiad ar gyfer Swyddogaeth Ansawdd Genedlaethol i fonitro paneli, ynghyd â dyletswydd i adrodd yn ôl ar anghysondebau, o gymorth i fynd i'r afael â hyn."