'Dim tystiolaeth' bod George North wedi'i frathu

George North Image copyright Rex Features

Ni fydd swyddogion Pencampwriaeth y Chwe Gwlad yn cymryd unrhyw weithred wedi i George North honni ei fod wedi ei frathu yn y golled yn erbyn Ffrainc ddydd Sadwrn.

Fe wnaeth y dyfarnwr Wayne Barnes ofyn i'r dyfarnwr cynorthwyol i edrych ar y digwyddiad, ond nid oedd yn gallu gweld unrhyw ffilm o'r digwyddiad.

Doedd y comisiynydd cyfeirio, John Montgomery ddim yn gallu gweld unrhyw dystiolaeth chwaith.

Ond gallai Ffrainc gael eu cosbi am eilyddio'r prop Uini Atonio am asesiad ar gyfer anaf i'w ben.

'Cwestiynu gonestrwydd ein gêm'

Dywedodd prif hyfforddwr Cymru, Rob Howley ei fod yn "cwestiynu gonestrwydd ein gêm" ar ôl i Atonio gael ei eilyddio am Rabah Slimani wedi 11 o'r 20 munud ychwanegol, gyda Slimani eisoes wedi cael ei eilyddio.

Ond mynnodd hyfforddwr Ffrainc, Guy Noves fod ei staff meddygol wedi dweud wrtho fod angen i Antonio fynd oddi ar y cae am asesiad.

Dywedodd y Chwe Gwlad ei fod yn "ymwybodol o'r pryderon" am y digwyddiad a'i fod yn ymchwilio i'r mater, ond na fyddai unrhyw weithred am honiad North.