Teyrngedau gan wleidyddion Cymru i Martin McGuinness

Martin McGuinness Image copyright Press Eye

Mae ffigyrau gwleidyddol Cymru wedi rhoi teyrngedau i gyn-ddirprwy brif weinidog Gogledd Iwerddon, Martin McGuinness, wedi iddo farw yn 66 oed.

Roedd y gwleidydd Sinn Féin wedi bod yn dioddef o gyflwr prin ar y galon.

Aeth Mr McGuinness o fod yn arweinydd ar yr IRA i gymodi, a chwaraeodd ran flaenllaw yn llywodraeth ddatganoledig Gogledd Iwerddon yn dilyn Cytundeb Gwener y Groglith 1998.

'Codi pontydd'

Yn ei deyrnged iddo, dywedodd Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones: "Chwaraeodd Martin ran hanfodol mewn dod â heddwch i Ogledd Iwerddon.

"Gweithiais yn agos ag ef am sawl blwyddyn ar Gynghorau Prydain ac Iwerddon, Cynghorau Cydweinidogol a thu hwnt.

"Pan siaradai, roedd pobl yn gwrando. Mae'r presenoldeb hwnnw'n esbonio llawer am sut llwyddodd i godi pontydd dros wahaniaethau gwleidyddol. Mae fy meddyliau gyda'i deulu a'i ffrindiau heddiw."

Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais
Dywedodd cyn-bennaeth rhaglenni BBC Gogledd Iwerddon, Arwel Ellis Owen, y bydd yn cofio Martin McGuinness fel dyn "clyfar, cyfrwys, oedd yn gallu bod yn hynod ddinistriol"

Fe wnaeth arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew RT Davies, gydnabod cyfraniad Mr McGuinness i'r broses heddwch, ond ychwanegodd y bod yn rhaid cofio am y rhai fu farw yn ystod y trais yng Ngogledd Iwerddon.

"Chwaraeodd Martin McGuinness ran allweddol i ddod â'r Troubles i ben, ond i nifer llawer rhy niferus o deuluoedd yng Ngogledd Iwerddon, ac ar draws y Deyrnas Unedig, bydd yr holl glodfori'r bore 'ma yn ormod," meddai.

'Cymeriad hawddgar'

Daeth Mr McGuinness yn ddirprwy brif weinidog ar Ogledd Iwerddon yn 2007, gan gydweithio gydag arweinwyr plaid unoliaethol y DUP, Ian Paisley, Peter Robinson ac Arlene Foster.

Dirprwy brif weinidog Cymru ar yr un cyfnod oedd Ieuan Wyn Jones, a dywedodd wrth raglen Post Cyntaf Radio Cymru ei fod wedi cwrdd â Mr McGuinness am y tro cyntaf yn 2007.

Image copyright Getty Images
Image caption Roedd Carwyn Jones (ail o'r chwith) a Martin McGuinness (trydydd o'r chwith) yn gweithio gyda'i gilydd ar Gynghorau Prydain ac Iwerddon

"Dyna lle o'n i'n cael fy nghyfarch yn Stormont gan Martin McGuinness ac Ian Paisley, oedd yn brofiad eithaf diddorol ar y pryd," meddai.

"Roedd llywodraeth ddatganoledig Gogledd Iwerddon newydd ddod yn ôl yn 2007 felly roedd o'n brofiad eithaf newydd iddyn nhw ac i mi.

"Ges i brofiad o fynd i gael sgwrs gyda Martin McGuinness sawl tro wedyn yn ystod y pedair blynedd o'n i yn y swydd.

"Roedd o'n gymeriad hawddgar iawn. Roedd ganddo fo'r cefndir o fod yn gefnogol i'r IRA, ond doeddech chi ddim yn ymwybodol o hynny o'i ymarweddiad.

"Roedd o'n hynod o hoffus, yn hawdd iawn i siarad ag o."

Image copyright Getty Images
Image caption Dywedodd Ieuan Wyn Jones bod Martin McGunness â diddordeb mawr yn yr iaith Gymraeg

Dywedodd Mr Wyn Jones bod Mr McGuinness wastad wedi dangos diddordeb yn yr iaith Gymraeg, a hynny am ei fod yn gobeithio gweld datblygiad Gaeleg yng Ngogledd Iwerddon.

"Oherwydd bod y ddau ohonom yn ddirprwy brif weinidogion, oedden ni'n tueddu i eistedd wrth ein gilydd mewn ciniawau a chynadleddau ac yn y blaen, felly ges i gyfle i gael sawl sgwrs hynod o ddifyr efo fo ynglŷn â gwleidyddiaeth," meddai Mr Wyn Jones.

"Un maes oedd ganddo fo ddiddordeb mawr ynddi oedd y Gymraeg a Gaeleg, a sefyllfa'r ddwy o ran y gyfraith.

"Roedd o'n ein holi ni'n aml ynglŷn â pha fath o fesurau deddfwriaethol y bydden ni'n bwriadu eu gwneud i gryfhau'r Gymraeg, ac wrth gwrs, roedden nhw'n ei chael yn llawer iawn anoddach yng Ngogledd Iwerddon oherwydd bod yr unoliaethwyr yn gwrthod cyflwyno unrhyw fesur fyddai'n cryfhau'r iaith Aeleg yno."