Dau feiciwr modur mewn cyflwr difrifol wedi gwrthdrawiad

  • 21 Mawrth 2017
Heol Corporation, Casnewydd Image copyright Google
Image caption Daeth yr heddlu o hyd i'r dynion gydag anafiadau difrifol ar Heol Corporation, Casnewydd

Mae dau ddyn wedi eu hanafu'n ddifrifol yn dilyn gwrthdrawiad beic modur yng Nghasnewydd.

Roedd dyn 28 oed a dyn 42 oed ar gefn y beic Kawasaki gwyrdd gafodd ei ddarganfod ar Heol Corporation yn ystod oriau mân bore Mawrth.

Daeth heddweision oedd ar batrôl ar draws y dynion ger adeilad Sefydliad Lysaghts tua 01:50.

Cafodd y ffordd ei chau am rai oriau tra bo Heddlu Gwent yn ymchwilio, ond mae wedi ailagor bellach.

Mae'r ddau yn parhau mewn cyflwr difrifol yn yr ysbyty, ac mae'r awdurdodau'n apelio am dystion i'r digwyddiad.