McGuinness: 'Dyn cyfrwys a dinistriol'
Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais

McGuinness: 'Dyn clyfar, cyfrwys a hynod ddinistriol'

21 Mawrth 2017 Diweddarwyd 10:13 GMT

Mae ffigyrau gwleidyddol Cymru wedi rhoi teyrngedau i gyn-ddirprwy brif weinidog Gogledd Iwerddon, Martin McGuinness, wedi iddo farw yn 66 oed.

Roedd y gwleidydd Sinn Féin wedi bod yn dioddef o gyflwr prin ar y galon.

Roedd Mr McGuinness yn "ddyn clyfar, cyfrwys, oedd yn gallu bod yn hynod ddinistriol", yn ôl un oedd yn ei adnabod.

Daeth Arwel Ellis Owen i'w adnabod pan oedd yn bennaeth rhaglenni yn BBC Gogledd Iwerddon.