Cychwyn trafodaeth ynglŷn ag oriel genedlaethol

  • 23 Mawrth 2017
Elfyn Lewis's work in his studio
Image caption Llywodraeth Cymru fydd yn ariannu'r astudiaeth dichonoldeb o greu oriel genedlaethol

Mae trafodaethau wedi cychwyn i greu oriel gelf genedlaethol newydd.

Ychydig iawn sydd wedi'i benderfynu ynglŷn â chynnwys neu leoliad yr oriel, er bod disgwyl iddo ganolbwyntio ar gelf Gymreig ers dechrau'r 20fed ganrif.

Mae Llywodraeth Cymru'n ariannu astudiaeth ddichonoldeb ar y prosiect, tra bod Plaid Cymru hefyd yn cefnogi'r syniad.

Cyngor Celfyddydau Cymru ac Amgueddfa Cymru sydd yn arwain gwaith cychwynnol y prosiect, ac sydd wedi bod yn ystyried y pwnc, cyn bydd astudiaeth fanylach yn cael ei gynnal yn ddiweddarach eleni.

Image caption Mae Cadeirydd Cyngor y Celfyddydau, Phil George, yn dweud bod yna gyffro am y cynllun

Mae'r llywodraeth yn ariannu'r astudiaeth fel rhan o ymrwymiad a wnaed yn ystod y trafodaethau gyda Plaid Cymru'r llynedd i lunio rhaglen lywodraethu.

Dywedodd cadeirydd y Cyngor Celfyddydau, Phil George, bod yna "gyffro" am y cynllun, er bod angen craffu cryf.

"Rydyn ni'n sicr am greu rhywle sy'n llawn cyffro wrth ddangos celf gyfoes a modern.

"Mae pawb sydd eisiau hynny am weld sut mae'r cynllun yn gallu cyd-fynd â'r sefyllfa bresennol, gyda'r orielau sy'n bodoli yn barod yn cynnig arlwy cryf yn barod.

"Ac rydyn ni am fod yn glir ynglŷn â'r perthynas fydd yn bodoli rhwng casgliadau celf a gweithiau newydd.

"Felly, y prif gwestiwn yw, os mai rôl yr oriel newydd yw i gynnal arddangosfeydd dros dro gyda ffocws newydd, gwaith newydd a hefyd apêl ryngwladol.

"Neu, a ydy'r oriel yn mynd i gynnwys casgliad o gelf fodern a chyfoes sydd eisoes yn bodoli yng Nghymru."

'Arwydd clir'

Amgueddfa Cymru yng Nghaerdydd sy'n cynnal y rhan helaeth o'r casgliad hynny.

Yn 2008, fe ystyriodd astudiaeth ddichonoldeb arall yr angen am oriel newydd.

Fe arweiniodd y gwaith hwnnw at adnewyddu ac ehangu orielau'r amgueddfa, yn hytrach na chreu oriel newydd.

Dywedodd David Anderson, cyfarwyddwr cyffredinol Amgueddfa Cymru: "Mae awydd gan ein hymwelwyr i brofi gwaith gan artistiaid sy'n byw ac yn gweithio yng Nghymru heddiw, a gan artistiaid Cymreig sydd yn gweithio y tu allan i Gymru.

"Roedd ein harddangosfa ddiweddar o waith Ivor Davies yn orielau celf gyfoes Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd - sef y gofod mwyaf yng Nghymru ar gyfer celf gyfoes - yn arwydd clir o hynny.

"Mae'n hynod o bwysig i'r Amgueddfa, ac i Gymru, fod celf gyfoes o Gymru ac o bedwar ban byd - yn boblogaidd ac anghyfarwydd - yn cael ei ddangos mewn ffyrdd newydd i gymaint o bobl ag y bo modd."

Mae'r cynigion newydd wedi derbyn cefnogaeth gan rai artistiaid.

Dywedodd Elfyn Lewis, cyn-enillydd y fedal aur am gelfyddyd gain yn yr Eisteddfod Genedlaethol, fod yr oriel newydd yn syniad gwych: "Dwi'n meddwl yn bendant ein bod ni angen o.

"Dyw hwn ddim y tro cyntaf mae'r pwnc yma wedi dod i fyny.

"A dwi'n meddwl, fel gwlad, os da ni'n mynd i gael ein cymryd o ddifri, pan mae gen ti oriel sy'n dangos celf fodern Cymraeg, yna mae pobl sy'n dod yma i Gaerdydd neu le bynnag bydd o, maen nhw'n gallu gweld beth mae arlunwyr yn gwneud a be maen nhw'n sôn amdani am eu gwlad."

Pan ofynnwyd iddo am y casgliad celf sydd eisoes yn bodoli yn Amgueddfa Cymru, dywedodd y byddai modd rhannu mwy o'r gweithiau gyda'r genedl mewn oriel newydd.

"Bob parch i'r amgueddfa, maen nhw'n llawn dop.

"Dwi'n meddwl fel gwlad, rydym angen rhoi'r marc yma i lawr, ein bod ni'n cymryd ein hun o ddifri, ac dwi'n credu bod adeilad fel yma yn gallu dangos i'r wlad ac i'r byd beth fedrwn ni neud."

Image caption Amgueddfa Cymru a Cyngor Celfyddydau Cymru fydd yn arwain gwaith cychwynnol y prosiect

Ond dywedodd Stephen Bayley, y beirniad diwylliannol o Gaerdydd, fod angen i Gymru fod yn arloesol, ac mae'n amau a fyddai oriel newydd yn fuddiol i'r genedl.

"Dwi methu osgoi teimlo bod y math o gelf sy'n cael ei drafod, a'r math o oriel sy'n cael ei drafod, yn rhywbeth o'r ganrif ddiwethaf.

"Os oes yna ddyfodol i Gymru - ac rwy'n meddwl bod yna ddyfodol enfawr i Gymru - hoffwn weld bach o gynllunio sydd ychydig yn fwy blaengar, yn hytrach na chopïo rhywbeth sydd eisoes wedi digwydd yn Ewrop, yr Unol Daleithiau ac yn Lloegr.

"Wrth gwrs, fe allech chi greu adeilad newydd diddorol yn Aberystwyth neu rywle tebyg, a pham lai?

"Byddai'n rhaid i chi fod yn dwp i wrthwynebu'r syniad.

"Dwi jyst yn meddwl ei fod yn ffordd gonfensiynol, hen ffasiwn o feddwl a fyddai'n well genna i weld ffordd wahanol o fuddsoddi yn nyfodol newydd Cymru. "

Mae disgwyl i waith cychwynnol Gyngor Celfyddydau Cymru ac Amgueddfa Cymru gael ei gwblhau yn ystod yr wythnosau nesaf, cyn i astudiaeth ddichonoldeb fanylach ddechrau'n hwyrach eleni.