Barrow 1-1 Wrecsam

Barrow Wrecsam Image copyright Getty Images

Fe sgoriodd Moussa Diarra chwe munud i mewn i'r amser ychwanegol i ddwyn buddugoliaeth oddi ar Wrecsam i ffwrdd yn Barrow.

Gyda'r hanner cynta'n ddi-sgôr, fe gymrodd tan bedair munud i fewn i'r amser ychwanegol cyn i Wrecsam daro cefn y rhwyd drwy droed Paul Rutherford.

Ond byrhoedlog oedd eu mantais, gyda Diarra'n sgorio i Barrow funudau'n ddiweddarach.

Mae'r canlyniad yn golygu fod Wrecsam yn aros yn y 10fed safle yn y Cynghrair Cenedlaethol.