Y cyn-hyfforddwr a chricedwr John Derrick wedi marw

  • 22 Mawrth 2017
john derrck Image copyright Getty Images

Mae cyn-hyfforddwr a chricedwr Morgannwg, John Derrick, wedi marw'n 54 oed.

Fe fydd yn cael ei gofio yn bennaf am ei ran yn llwyddiant Morgannwg ar ddechrau'r degawd diwethaf.

Fe enillodd y tîm y Gynghrair Genedlaethol ddwywaith o dan ei arweiniad - yn 2002 a 2004.

Roedd hefyd yn gyfrifol am oruchwylio dyrchafiad y sir i Adran Gyntaf y Bencampwriaeth yn 2004, gan orffen yn y rôl honno ym mis Chwefror 2007.

Fe barhaodd i chwarae i glwb Aberdâr, ac roedd hefyd yn llais a wyneb cyfarwydd yn y cyfryngau, gan iddo weithio fel sylwebydd i BBC Cymru.

Roedd Derrick wedi bod yn dioddef o diwmor ar yr ymennydd.