Cam-drin hanesyddol: Cyn-athro o Fachynlleth yn y llys

  • 22 Mawrth 2017
Gordon Fleming

Mae cyn-athro ysgol gynradd o Fachynlleth wedi bod o flaen llys i wynebu dros 60 cyhuddiad o gam-drin rhyw hanesyddol yn erbyn merched.

Fe ymddangosodd Gordon Fleming, 66 oed, yng Nghanolfan Gyfiawnder Aberystwyth, wedi ei gyhuddo o 61 o droseddau o ymosod yn anweddus ar ferched dan 14 oed.

Mae'r cyhuddiadau yn dyddio'n ôl i'r 1970au a'r 1980au.

Mae'r cyhuddiadau yn ymwneud â chyfanswm o 23 o ferched dros gyfnod o bum mlynedd rhwng 1976 a 1981, a hynny mewn ysgol gynradd ym Machynlleth.

Ni chafodd ple ei gyflwyno gan dîm cyfreithiol Mr Fleming, ac mae'r achos wedi cael ei gyfeirio i Lys y Goron Abertawe, lle bydd yn wynebu barnwr ar 21 Ebrill.