ymosodiad llun
Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais

Ymosodiad terfysgol Llundain

22 Mawrth 2017 Diweddarwyd 21:50 GMT

Yn Llundain cafodd pedwar o bobl gael eu lladd ddydd Mercher mewn ymosodiad terfysgol.

Cafodd o leiaf 20 o bobl eu hanafu ac mae'r rhai sydd wedi marw yn cynnwys yr unigolyn oedd yn gyfrifol am yr ymosodiad.

Dywed yr heddlu fod yr ymosodiad wedi dechrau pan gafodd car ei yrru i mewn i gerddwyr ar Bont Westminster, gan ladd dau o bobl.

Yna fe aeth y gyrrwr allan o'r car gan fynd i Dŷ'r Cyffredin ac ymosod ar swyddogion yr heddlu. Cafodd yr unigolyn ei saethu'n farw gan swyddogion arfog.

Dywedodd y prif weinidog Theresa May fod yr ymosodiad yn ymosodiad ar ein democratiaeth, ond mynnodd y byddai aelodau seneddol yn mynd i'w gwaith yn ôl eu harfer ddydd Iau.

Roedd Gohebydd Seneddol BBC Cymru Elliw Gwawr yn dyst i ddigwyddiadau'r dydd.