Pleidleisio 'dros y person yn hytrach na'r blaid'

  • 23 Mawrth 2017
Image copyright Thinkstock/PA/BBC

Mae'r cyfnod cynadleddau gwleidyddol wedi dechrau, a gyda'r etholiadau i ddewis cynghorwyr ar gyfer awdurdodau lleol Cymru yn nesáu, Cymru Fyw sy'n holi cynghorwyr am wleidyddiaeth leol a chenedlaethol, a'r gwaith o gynrychioli pobl.

Mae John Davies yn gynghorydd annibynnol ar Gyngor Penfro.

Ar drothwy'r etholiadau lleol ym mis Mai mae cryn drafod wedi bod am obeithion y pleidiau traddodiadol.

Ond mae un garfan o ymgeiswyr yn cael llawer llai o sylw.

Does gan y fyddin hon ddim lliw arbennig, nac enw penodol ychwaith, ac eto mae'n amddiffyn mwy o seddi cyngor ar draws Cymru na Phlaid Cymru (170) a'r Ceidwadwyr (104) ynghyd.

Ar hyn o bryd mae 325 o gynghorwyr annibynnol yng Nghymru.

Mae gan Lafur 580 o gynghorwyr a 75 sydd gan y Democratiaid Rhyddfrydol.

"Mae hi'n sefyllfa sydd wedi goroesi sawl etholiad dros y degawdau," meddai John Davies, sy'n gynghorydd annibynnol ers 1999.

"Materion lleol sy'n bwysig i bobl ac yn enwedig yn yr ardaloedd gwledig - ac mae Cymru'n wlad wledig - mae'n duedd gan bobl i bleidleisio dros y person yn hytrach na'r blaid."

Image caption Yn ôl John Davies fe ddylai ymgeiswyr annibynnol wneud yn dda yn yr etholiad eleni

Ond heb gefnogaeth ac adnoddau plaid gyffredin, onid yw ymgyrchu fel ymgeisydd annibynnol yn fwy anodd?

Nid felly mae John Davies yn ei gweld hi.

"Ethol unigolyn ydych chi'n y pendraw felly dwi ddim yn credu bod ymgyrchu gyda chymanfa ganu y tu ôl i chi'n helpu."

"Peth lleol yw gwleidyddiaeth yn y pendraw ac ar sail hynny mae'r pwyslais ar yr unigolyn."

Yn wir, ar drothwy etholiad arall mae John Davies yn credu y dylai ymgeiswyr annibynnol ar draws y wlad edrych ymlaen at Fai'r 4ydd yn llawn gobaith o ystyried yr hinsawdd wleidyddol ar hyn o bryd.

"O edrych ar yr etholiadau i ddod mae'n bosib bod gobeithion gwleidyddion annibynnol yn well," meddai.

"Pan chi'n ystyried beth sy'n digwydd ar draws y byd, a Brexit a Trump, mae'n glir bod pobl yn colli ffydd mewn pleidiau traddodiadol a'r dosbarth gwleidyddol."

Ond yn wahanol i gynghorau sir prin iawn yw'r gwleidyddion annibynnol sy'n cael eu hethol i Dŷ'r Cyffredin neu'r Cynulliad.

Ers dechrau datganoli ym 1999 dim ond dau aelod annibynnol sydd wedi eu hethol i Fae Caerdydd (er bod eraill wedi troi'n annibynnol tra'n Aelod Cynulliad).

Yn ôl John Davies mae hyn oherwydd bod y pynciau trafod cyn etholiadau cyffredinol a datganoledig yn llai lleol ac mae yna fwy o alw am faniffestos a pholisïau cenedlaethol.

Mae John Davies yn aelod o'r grŵp annibynnol sy'n rheoli Cyngor Penfro.

Image caption Mae Ynys Môn ymhlith yr awdurdodau lleol lle mae cynghorwyr annibynnol yn arwain y cyngor

Cynghorwyr annibynnol sydd hefyd yn arwain cynghorau Wrecsam, Ynys Môn a Sir Ddinbych.

A chlymblaid o garfanau annibynnol sydd wrth y llyw ym Mhowys - sir ble mae'r mwyafrif o gynghorwyr yn cynrychioli grwpiau annibynnol.

Mae cynghorwyr annibynnol hefyd yn rhan o'r cabinet mewn amryw o siroedd eraill.

"Mae'n gallu bod yn haws ffurfio cabinet gydag aelodau annibynnol achos pan mae clymbleidiau'n cael eu sefydlu, d'ych chi ddim wedi'ch glynu i unrhyw blaid," meddai John Davies.

"Bues i'n arweinydd cyngor am ddau dymor ac fel aelod annibynnol mae'n haws dod â chynulliad o aelodau ynghyd."

Efallai'n wir, ond wedi'r etholiad - a'r esgid yn gwasgu - yr un heriau fydd yn wynebu pob cyngor: bod nhw o dan ofal plaid draddodiadol neu beidio.

A bydd pob cynghorydd yn atebol i'w etholwyr.

Mae'r manylion am yr holl ymgeiswyr ar gyfer Cyngor Penfro ar gael yma.