Treth Cyngor Cymru £171 yn is na Lloegr ar gyfartaledd

Mark Drakeford
Image caption Mark Drakeford yw'r Ysgrifennydd Cyllid a Llywodraeth Leol

Mae'r ffigyrau diweddaraf yn cadarnhau bod treth cyngor yng Nghymru yn parhau yn is nag yn Lloegr ar gyfartaledd.

Dywedodd yr Ysgrifennydd Cyllid Mark Drakeford bod y ffigyrau'n dangos bod awdurdodau lleol yma'n cael eu hamddiffyn rhag y toriadau gwaethaf o lywodraeth San Steffan.

Mae'r ystadegau'n dangos bod treth cyngor Band D yng Nghymru ar gyfer 2017-18 yn £1,420 - £171 yn llai nag yn Lloegr.

Ond mae'r Ceidwadwyr wedi cyhuddo gweinidogion o "sbin digywilydd", a dywedodd y Democratiaid Rhyddfrydol bod rhai o gynghorau Cymru wedi gweld cynnydd aruthrol mewn treth cyngor.

Mae'r cynnydd mewn treth cyngor Band D yn Lloegr yn 4% o gymharu â 3.3% yng Nghymru, a dyma'r tro cyntaf mewn naw mlynedd i'r cynnydd yn y dreth Band D fod yn is na dros y ffin.

Mewn termau ariannol, mae'r cynnydd ar gyfartaledd yn £46 gyda thrigolion Powys yn gweld y cynnydd mwyaf (£62) a Chaerffili'n gweld y naid isaf (£19).

Y dreth Band D uchaf yng Nghymru yw £1,754 ym Mlaenau Gwent, ond yno mae'r nifer isaf o eiddo yn y band yna nag unman arall yng Nghymru.

Y gost isaf yw £1,128 yn Sir Benfro, sydd â tua 10,850 o gartrefi Band D.

Image copyright Thinkstock

Dywedodd Mr Drakeford: "Mae cynghorau yma'n wynebu heriau ariannol go iawn ond mae'r ffigyrau diweddaraf yma'n dangos ein bod yn gwarchod llywodraeth leol rhag y toriadau gwaethaf sy'n cael eu pasio 'mlaen gan San Steffan, ac wrth wneud hynny yn gwarchod y trethdalwr - sefyllfa sy'n wahanol iawn i dros y ffin.

"Yn 2017-18 ry'n ni'n cynyddu'r cyllid ar gyfer llywodraeth leol o £10m o gymharu â 2016-17.

"Oherwydd y llawr cyllido y gwnaethon ni gyflwyno yn y setliad llywodraeth leol, ni fydd rhaid i'r un cyngor orfod ymdopi â llai na 99.5% o'r arian a gafon nhw'r llynedd, a bydd gan y rhan fwyaf fwy na hynny."

Cynnydd aruthrol

Ond dywedodd llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig ar lywodraeth leol, Janet Finch Saunders: "Mae gweithwyr Cymru yn cael eu talu £4,500 yn llai nag yn Lloegr ar gyfartaledd, felly mae honiad Llafur eu bod wedi cwtogi biliau treth cyngor yn gywilyddus.

"Ar draws Cymru mae eiddo Band D wedi wynebu cyfanswm o tua £627 o gynnydd ers 2012, ac mae trigolion yn gwybod mai dim ond cyngor Ceidwadol fydd yn brwydro dros filiau treth cyngor tecach."

Yn ôl llefarydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru ar lywodraeth leol, y cyn AC Peter Black: "Tra bod bil treth cyngor yng Nghymru yn is nag yn Lloegr ar gyfartaledd, ry'n ni'n dal wedi gweld cynnydd aruthrol gan rai cynghorau flwyddyn ar ôl blwyddyn.

"Treth cyngor yw un o'r trethi mwyaf annheg yn ein cymdeithas, ac mae'n taro'r tlawd yn galetach... dyna pam y byddwn yn darparu gwasanaethau cyhoeddus gwell a mwy effeithiol fel nad oes yr un gymuned yn cael eu gadael ar ôl."

Dywedodd Siân Gwenllian AC ar ran Plaid Cymru bod cytundeb gyda gweinidogion a rhoi pwysau ar y weinyddiaeth Lafur ym Mae Caerdydd gan ei phlaid wedi sicrhau arian ychwanegol ar gyfer llywodraeth leol a chymorth gyda biliau treth cyngor i gartrefi sydd ar incwm isel.

"Mae Plaid Cymru bob tro wedi gweithredu i sicrhau bargen well i'r rhai sy'n talu treth cyngor ynghyd â gwarchod ein gwasanaethau lleol hanfodol," meddai.