Cyhoeddi rhestr fer Gwobrau Pensaernïaeth Cymru

  • 24 Mawrth 2017
Ysgol Uwchradd Y Rhyl a Thŷ Arian Image copyright RIBA Comms
Image caption Mae Ysgol Uwchradd Y Rhyl a Thŷ Arian ym Mhenrhyn Gŵyr ar y rhestr fer

Mae pedwar adeilad wedi cael eu cyhoeddi ar restr fer Gwobrau Pensaernïaeth Cymru 2017.

Cyhoeddodd Gymdeithas Frenhinol y Penseiri bod Un Sgwâr Canolog yng Nghaerdydd ac Ysgol Uwchradd Y Rhyl ymysg yr enwebiadau.

Tŷ Arian ym Mhenrhyn Gŵyr a'r Chickenshed yn Sir Fynwy sy'n cwblhau'r rhestr fer.

Bydd pob adeilad yn cael ymweliad gan reithgor rhanbarthol cyn i'r enillydd gael ei gyhoeddi mewn seremoni yng Ngholeg Caerdydd a'r Fro ar 30 Mai.

Fe fydd yr enillydd wedyn yn symud 'mlaen i gynrychioli Cymru ar y rhestr fer ar gyfer y Stirling Prize am yr adeilad gorau yn y DU.

Image copyright RIBA Comms
Image caption Cafodd y Chickenshed ei ddylunio gan benseiri Hall + Bednarczyk
Image copyright RIBA Comms
Image caption Penseiri Rio sy'n gyfrifol am ddyluniad Un Sgwâr Canolog yng Nghaerdydd