Streiciau yn Iwerddon yn amharu ar gefnogwyr Cymru

Cefnogwyr Cymru Image copyright Getty Images

Mae miloedd o gefnogwyr pêl-droed Cymru yn wynebu problemau teithio, gydag undebau yn Iwerddon yn streicio cyn y gêm yn Nulyn nos Wener.

Mae gyrwyr bws yn cynnal streic un diwrnod ac mae rhai trenau wedi'u canslo hefyd - gan adael o leiaf un grŵp o 20 o gefnogwyr yn Rosslare heb ffordd i'r brifddinas.

Mae'r gwasanaethau trafnidiaeth wedi dweud y bydd unrhyw un wnaeth brynu tocyn o flaen llaw yn cael eu harian yn ôl, ond does dim gwasanaethau bws na thrên arall yn rhedeg.

Bydd gwasanaethau'n cael eu heffeithio i ag o Ddulyn i Limerick, Cork, Galway, Sligo a Waterford.

Mae gweithwyr bws yn streicio yn Nulyn hefyd, gan olygu bod llai o wasanaethau ar gyfer cefnogwyr i'r stadiwm.

Bydd Cymru yn herio Gweriniaeth Iwerddon yn Stadiwm Aviva am 19:45 nos Wener.

Gallwch ddilyn y gêm yn fyw ar lif byw arbennig Cymru Fyw o 19:15.