Sut le oedd Cymru?

Olion traed criw o bobl yn cynnwys oedolion a phlant a oedd yn dilyn ceirw a baeddod gwyllt er mwyn ceisio eu hela 7000 o flynyddoedd yn ôl Image copyright Rhiannon Philp
Image caption Olion traed criw o bobl yn cynnwys oedolion a phlant a oedd yn dilyn ceirw a baeddod gwyllt er mwyn ceisio eu hela 7000 o flynyddoedd yn ôl

Sut le oedd Cymru filoedd o flynyddoedd yn ôl? Dydy o ddim yn gwestiwn hawdd i'w ateb, ond diolch i olion traed o'r oes Fesolithig mae hi'n bosib i archeolegwyr ddarganfod rhai o gyfrinachau'r gorffennol.

Cymru sydd â'r nifer fwyaf yn y byd o olion traed o'r cyfnod yn syth wedi Oes yr Ia - o ddeutu 7000 o flynyddoedd yn ôl.

Mae'r mwyafrif llethol ohonyn nhw i'w gweld rhwng y lefel penllanw a thrai o gwmpas arfordir Cymru. Bu newid hinsawdd yn rhan o hanes creu'r olion traed, ond yn eironig, mae newid hinsawdd ein hoes ni yn eu bygwth nawr.

Mae yna olion traed o'r cyfnod Mesolithig wedi eu darganfod ar lannau'r Hafren, ym Mae Ceredigion ac yng nghyffiniau'r Rhyl yn y gogledd. Ond yn ddiweddar roedd 'na ddarganfyddiad pwysig ger Port Eynon ar Benrhyn Gŵyr.

Helwyr cynnar

"Mae'r olion traed ar Benrhyn Gŵyr yn arbennig o gyffrous" yn ôl Rhiannon Philp, myfyriwr PhD yn Adran Archaeoleg, Hanes a Chrefydd Prifysgol Caerdydd. "Yr hyn ry'n ni yn ei weld yno yw olion traed criw o bobl yn cynnwys oedolion a phlant sy'n dilyn olion traed anifeiliaid ar draws tirwedd gorsiog. Mae'n debyg felly mai criw hela oedd yma, a oedd yn dilyn ceirw a baeddod gwyllt er mwyn ceisio eu hela.

"Yma felly ry'n ni'n cael cip ar fywyd bob dydd helwyr-gasglwyr y cyfnod Mesolithig lle'r oedd y teulu cyfan yn mynd i hela ac i gasglu bwyd ger yr arfordir.

"Yn wreiddiol roeddem ni'n credu mai olion traed o'r Oes Efydd oedd yno, ond ar ôl i mi gynnal profion dyddio radio carbon, fe wnaethon ni ddarganfod eu bod llawer yn hŷn, ac yn dod o'r cyfnod Mesolithig - sy'n eu gwneud llawer yn fwy arwyddocaol."

Image copyright Rhiannon Philp
Image caption Ôl troed oedolyn a fu'n hela ar Benrhyn Gŵyr 7000 o flynyddoedd yn ôl

Rhewlifoedd

Yn ôl yr Athro Martin Bell, o Brifysgol Reading, sydd wedi gwneud cryn dipyn o waith cloddio archeolegol ar lannau'r Hafren, roedd arfordir Cymru yn wahanol iawn 9000 o flynyddoedd yn ôl, cyn i rewlifoedd mawr gogledd America ddadmer, a'r dŵr o'u mewn gyfrannu at godi lefel yr Iwerydd yn eithaf sylweddol.

"Ar ddiwedd Oes yr Ia roedd bae eang rhwng gogledd Dyfnaint a Sir Benfro gyda'r ardal sydd bellach yn aber yr afon Hafren yn dir sych a'r afon ei hun yn llifo ar draws y tir hwn. Dros y ddwy fil o flynyddoedd dilynol fodd bynnag, cododd lefel y môr a newidiodd lleoliad yr arfordir o'r herwydd gan ddod tipyn yn fwy tebyg i'r un sy'n adnabyddus i ni heddiw.

"Yn y cyfnod hwn, helwyr-gasglwyr oedd y bobl a oedd yn byw yn yr ardal, a byddent yn hela anifeiliaid megis ceirw, baeddod gwyllt a dwrgwn, dal pysgod a chasglu pysgod-cregyn i'w bwyta.

"O'r gwaith archeolegol ry'n ni wedi ei wneud ar lannau'r Hafren, mae'n ymddangos bod y plant yn enwedig yn cael eu hanfon i gasglu planhigion a physgod cregyn yn y mwd ar lannau'r afon. Trwy lwc, cafodd yr olion traed hyn yn y mwd neu'r mawn eu llenwi gan dywod wedyn yn araf bach a thrwy hynny eu cadw ar hyd yr oesoedd.

"Yn Allteuryn (Goldcliff) ar lan yr Hafren, yn ogystal â'r olion traed rydym ni wedi dod o hyd i olion treflannau. Mae'r rhain yn awgrymu'n gryf y byddai'r helwyr-gasglwyr wedi dod i'r ardal hon yn achlysurol yn unig. Yn ôl tystiolaeth y paill gafodd ei ddarganfod yn yr olion traed, byddai hynny yn ystod yr haf neu ddechrau'r hydref.

"Mae yna ardaloedd penodol o gwmpas y dreflan ar gyfer gweithgareddau gwahanol, fel ardaloedd i fwtsiera anifeiliaid, fel yr ychen hirgorn anferth a fodolai ar y pryd, a choginio pysgod a llysywod ar gerrig wedi eu poethi. O'r rheini ry'n ni wedi dod o hyd i dystiolaeth o'r bwyd yr oedden nhw yn ei fwyta a hyd yn oed y parasitiaid a oedd yn byw yn eu coluddion!

Image copyright Amgueddfa Genedlaethol Cymru
Image caption Offer o'r oes Fesolithig, tebyg i'r rhai gafodd eu darganfod yn Allteuryn

Cyfrinachau'r llanw

"Beth sy'n digwydd nawr yw bod newid hinsawdd yn golygu stormydd ffyrnicach yn y gaeaf ac o ganlyniad i'r rheini, y mae tywod yn cael ei olchi i ffwrdd, o dro i dro, gan ddadorchuddio'r olion traed yn y mawn neu'r llaid unwaith eto. Gyda'r Hafren, ry'n ni yn wynebu llanw arbennig o uchel, a gall hynny hefyd arwain at olchi'r tywod i ffwrdd, gan ddadorchuddio'r olion traed cyn-hanesyddol ac wrth gwrs eu dinistrio mewn amser.

"Mae'n bwysig felly ein bod yn casglu'r holl dystiolaeth archeolegol a fedrwn pan fydd olion traed yn cael eu dadorchuddio yn yr ardal rhwng y marc llanw uchel a marc y trai, a phobl leol sy'n gyfarwydd â thraethau sydd fel arfer yn llwyddo yn hyn o beth.

"Os welwch chi olion traed felly mewn mwd neu fawn sydd newydd ei ddadorchuddio ar draeth, tynnwch lun a rhowch wybod i ni. Mae'n bosib eich bod chi'n gweld olion traed person a fu'n troedio'r ddaear dros 7000 o flynyddoedd yn ôl."

Image copyright Martin Bell / Prifysgol Reading
Image caption Olion traed cyn-hanesyddol o ardal Allteuryn ar lannau'r Hafren