Gweriniaeth Iwerddon 0-0 Cymru

Wales Image copyright Getty Images
Image caption Cafodd Neil Taylor ei hel o'r maes am dacl fudr ar Seamus Coleman

Mae gobeithion Cymru o gyrraedd rowndiau terfynol Cwpan y Byd 2018 yn Rwsia yn edrych yn brin yn dilyn gêm ddi-sgôr yn erbyn Gweriniaeth Iwerddon yn Nulyn.

Fe gafodd capten y Gwyddelod, Seamus Coleman, anaf drwg iawn mewn tacl flêr dros ben a welodd Neil Taylor yn cael cerdyn coch.

Fe ddaeth hynny o fewn munud i ergyd arall i Gymru pan welodd Gareth Bale gerdyn melyn - ei ail yn y gystadleuaeth - sy'n golygu na fydd ar gael ar gyfer gêm nesa' Cymru yn erbyn Serbia.

Roedd y tîm cartref yn ymddangos eu bod yn hapus i gael pwynt wrth i'w hamddiffyn gadw trefn ar Gymru yn yr hanner cyntaf.

Fe wellodd pethau rhyw fymryn i Gymru wedi'r egwyl pan ddaeth Sam Vokes i'r cae yn lle Hal Robson-Kanu, ac fe ddaeth un o'r cyfleoedd gorau i Vokes.

Er hynny, mae'n anodd cofio golwr Iwerddon yn cael ei orfodi i wneud arbediad.

Image copyright Getty Images
Image caption Roedd y gêm yn Nulyn yn un 'gystadleuol' dros ben

Yn gynharach yn y dydd fe wnaeth Serbia guro Georgia o 3-1 i godi i frig Grŵp D, ac fe wnaeth Awstria guro Moldofa hefyd.

Mae'r cyfan yn golygu bod Cymru'n drydydd yn y grŵp hanner ffordd drwy'r ymgyrch.

Roedd Chris Coleman wedi dweud nad oedd y gêm yn un oedd yn rhaid i'w hennill, ond go brin fod hynny'n wir am y gêm nesaf - yn wir fe fydd angen i Gymru geisio ennill y pum gêm sy'n weddill.

Dyna ddywedodd cyn-ymosodwr Cymru Dean Saunders wedi'r gêm:

"Pe byddai canlyniadau eraill wedi mynd o blaid Cymru fe fyddwn i wedi dweud fod pwynt yn ganlyniad da, ond o edrych ar y tabl nawr rwy'n credu fod rhaid i Gymru ennill pob un o'r gemau sy'n weddill."

Mae gan Gymru bum gêm yn weddill - gan gynnwys tair gêm oddi cartref a dwy yng Nghaerdydd.