Scarlets 26-10 Caeredin

Image copyright Huw Evans picture agency
Image caption Rhys Patchell yn sgorio cais o fewn tair munud i ddechrau'r gêm

Roedd na fomentwm a rheolaeth sicr yn gêm y Scarlets yn yr hanner cyntaf yn erbyn Caeredin ar Barc y Scarlets.

Erbyn hanner amser roedd y rheolaeth wedi rhoi pedwar cais i'r cochion, dau i Rhys Patchell ac un yr un i'r prop Wyn Jones a James Davies. Troswyd tri o'r ceisiau gan Rhys Patchell.

Unig ateb Caeredin yn yr hanner cyntaf oedd trosgais gan Burleigh a chic gosb gan Weir.

Roedd disgwyl i'r ail hanner fod yn barhad ar chwarae chwim y Scarlets. Ond yr hyn a welwyd oedd Caeredin yn llwyddo i arafu'r gêm a thrwy hynny cael gwell rheolaeth.

Cafwyd ail hanner hesb o unrhyw sgôr ac ar adegau roedd yn gêm ddigon blêr.

Gan fod Ulster wedi ennill yn erbyn y Dregiau mae'r Scarlets yn y pumed safle yn y Pro 12..