Arestio gyrrwr wedi damwain angheuol yng Ngorseinon

  • 25 Mawrth 2017
damwain Gorseinon Image copyright @GorseinonWeb/Twitter

Mae dyn wedi cael ei arestio ar amheuaeth o achosi marwolaeth drwy yrru'n beryglus yng Ngorseinon brynhawn Gwener.

Bu farw dyn ar ôl iddo gael ei daro gan oleuadau traffig ar ôl i gar daro yn erbyn y golau.

Fe ddigwyddodd y ddamwain yn fuan wedi 16:15.

Bu farw dyn 55 oed ar ôl i gar BMW fwrw y goleuadau traffig. Credir i'r goleuadau gwympo ar ben y dyn.

Mae'r dyn sydd wedi cael ei arestio yn dod o ardal Uplands yn Abertawe ac yn parhau yn y ddalfa.

Mae plismyn yn apelio ar dystion i gysylltu â nhw drwy ffonio 101 neu drwy gysylltu â Thaclo'r Taclau gan nodi y rhif 1700111007.