Chris Coleman yn teimlo dros y Coleman arall

Neil Taylor red card Image copyright Getty Images
Image caption Neil Taylor yn cael y cerdyn coch wedi iddo droseddu

Dywed rheolwr tîm pêl-droed Cymru fod ei "holl deimladau" gydag amddiffynnwr Iwerddon Seamus Coleman wedi iddo dorri ei goes yn y gêm nos Wener.

Di-sgôr oedd y gêm ond mae'n debyg y bydd yn cael ei chofio am drosedd Neil Taylor yn erbyn amddiffynnwr Everton Seamus Coleman. Fe gafodd Taylor gerdyn coch yn syth wedi'r digwyddiad.

"Mae'n rhaid i ni feddwl yn bennaf am Seamus Coleman. Fe sy'n fwyaf pwysig," dywedodd Chris Coleman.

Ychwanegodd: "Dyw amddifynnwr Aston Villa, Neil Taylor, ddim y math yna o chwaraewr ond mae'r hyn sydd wedi digwydd yn anodd i Seamus."

Image copyright Getty Images

'Rheoli'r gêm'

Ar ddiwedd y gêm roedd Coleman yn credu bod ei dîm ar i fyny cyn gorfod chwarae gyda deg dyn.

Mae canlyniad y gêm yn golygu bod Cymru bedwar pwynt y tu ôl i Weriniaeth Iwerddon a Serbia a hynny wrth i hanner gemau grŵp D gael eu chwarae.

"Mi wnaeth y cerdyn coch newid popeth," ychwanegodd Coleman, "roeddwn yna'n gorfod brwydro'n galed am 25 munud."

Image copyright Getty Images
Image caption Gareth Bale yn cael ei fwcio am daclo John O'Shea

Colli Bale yn ergyd

Dywedodd Coleman ei bod hi dal yn bosib i Gymru chwarae yn nhwrnament Rwsia yn 2018 er na fydd Gareth Bale yn cael chwarae yn y gêm nesaf.

Ychwanegodd: "Mae pump gêm ar ôl i'w chwarae a hyd yma does neb wedi ein trechu.

"Mae'r chwaraewyr wedi rhoi'r cyfan - ry'n angen gwell lwc a safon tro nesaf.

"Bydd colli Gareth yn Serbia yn ergyd ond dyna beth yw pêl-droed rhyngwladol.

"Ond ry'n ni dal yn credu y gallwn ddod â rhywbeth nôl o Serbia. Mi fydd yn brawf da ar ein gallu ac y mae'n gêm yr ydym yn edrych ymlaen ati."

Image copyright Getty Images
Image caption Gareth Bale ar ddiwedd y gêm yn Nulyn

Wedi'r gêm dywedodd Gareth Bale ei fod yn credu bod Cymru yn rheoli cyn cerdyn coch Taylor.

"Yn yr hanner cyntaf," roedd hi'n gêm gorfforol galed a doedd ein perfformiad ddim yn hynod o dda.

"Yn yr ail hanner, er hynny, roedd pethau'n well ac fe gawsom sawl cyfle - rwy'n credu i ni reoli'r gêm yn hynod o dda.

"Yn amlwg roedd chwarae gyda 10 dyn ar y diwedd yn anodd.

"Ry'n, wrth gwrs, yn siomedig na chawsom yr un gôl na buddugoliaeth."