Leinster 22-21 Gleision

Gêm hynod o agos a thasg go anodd oedd hi i Leinster sicrhau buddugoliaeth
Image caption Gêm hynod o agos a thasg go anodd oedd hi i Leinster sicrhau buddugoliaeth

Roedd hi'n gêm hynod o agos rhwng y Gleision a'r Gwyddelod sydd ar frig y Pro 12.

Croesodd Leinster y gwyngalch ddwy waith yn yr hanner cyntaf drwy Dan Leahy a Luke McGrath. Ond nid oedd y Gleision yn fud ychwaith gyda chais rhagorol gan Tomos Williams.

Yn yr ail hanner roedd y Gleision ar dân gyda dau drosgais arall - un gan Williams a'r llall gan Sion Bennett gan roi blaenoriaeth o 21 i 17 i'r ymwelwyr.

Ond nid oedd Leinster am ildio eu lle ar frig y tabl mor rhwydd ac fe sgoriodd Ross Molony ar ddiwedd y gêm gan felly drechu Y Gleision o un pwynt.

Mae colled y Gleision yn golygu eu bod yn aros yn yr wythfed safle yn y Pro12.