Portsmouth 2-1 Casnewydd

Casnewydd Image copyright Huw Evans picture agency

Roedd 'na hwb i obeithion Portsmouth am ddyrchafiad heddiw wrth iddyn nhw drechu Casnewydd.

Dwy gôl gan y tîm cartref - un gan Kyle Bennet cyn yr egwyl a'r llall gan Kal Naismith.

Fe lwyddodd Alex Samuel o Gasnewydd, er hynny, i sicrhau gôl yn yr ail hanner.

Roedd Casnewydd wedi gobeithio am fuddugoliaeth gan eu bod wedi sicrhau tri phwynt yn Fratton Park dair gwaith o'r bron yn ystod ymweliadau diweddar.

Mae Casnewydd chwe phwynt y tu ôl i Cheltenham yn Adran Dau ac y mae ganddynt saith gêm i'w chwarae cyn diwedd y tymor.