Wrecsam 1-1 Torquay

pel-droed generic Image copyright Getty Images

Dwy gôl o'r smotyn oedd yr unig goliau ar y Cae Ras dydd Sadwrn wrth i'r Dreigiau herio Torquay.

Daeth y gôl gyntaf i Wrecsam gan George Harry yn munud cyntaf yr ail hanner wedi i golwr Torquay lorio Izale McLeod.

Ond gyda deuddeg munud i fynd tan ddiwedd y gêm bu trosedd yn y blwch cosbi yn erbyn Luke Young ac fe roes hynny gyfle i Jamie Reid ddod â'r sgôr yn gyfartal o'r smotyn.

Bu ond y dim i Iffy Allen gipio buddugoliaeth i Wrecsam ond aeth y bêl dros y bar.

Mae Wrecsam felly yn ddegfed yn y Cynghrair Cenedlaethol.