Dyn yn marw wedi damwain ger Aberystwyth

  • 25 Mawrth 2017
heddlu generic

Dywed Heddlu Dyfed Powys bod dyn 19 oed wedi cael ei ladd wedi damwain car yng Ngheredigion fore Sadwrn.

Fe ddigwyddodd y ddamwain yn Llancynfelyn, pentref bychan rhwng Aberystwyth a Machynlleth.

Dim ond gyrrwr y car Ford Fiesta lliw arian oedd yn gysylltiedig â'r ddamwain.

Erbyn i'r heddlu gyrraedd man y ddamwain roedd y dyn wedi marw.

Cafodd y dyn ei weld ddiwethaf yn siop Spar Aberystwyth am 03:15 fore Sadwrn ac mae'n debyg i'r ddamwain ddigwydd yn fuan ar ôl hynny.

Mae'r heddlu yn apelio am dystion.