Tân ar fynydd Penrhys

  • 25 Mawrth 2017
Penrhys mountain fire Image copyright Jamie Jenkins

Mae diffoddwyr tân yn ceisio diffodd tân anferth ar fynydd Penrhys yn Rhondda Cynon Taf.

Mae'r tân wedi cynnau ar hyd oddeutu hanner can erw o dir.

Dywedodd llefarydd ar ran Gwasanaeth Tân y De nad oes perygl ar hyn o bryd i dai gerllaw.

Ond fe ychwanegodd bod y mynydd yn wenfflam.

Image copyright Jamie Jenkins