Pro12: Treviso 13-5 Gweilch

rygbi Image copyright Huw Evans picture agency

Fe gafodd gobeithion y Gweilch o ennill eu pumed teitl yn y Pro12 dipyn o ergyd nos Sadwrn, wedi iddynt golli o 13-5 yn erbyn Treviso.

Roedd y Gweilch wedi penderfynu gorffwys eu sêr rhyngwladol, wedi i gemau'r Chwe Gwlad ddirwyn i ben, felly roedd Dan Biggar a Rhys Webb yn absennol o'r 15 oedd yn dechrau.

Dyma drydedd fuddugoliaeth Treviso yn yr ymgyrch eleni, ac fe ddaeth hynny wedi cyfnodau o amddiffynnol cadarn a llu o gamgymeriadau gan y Gweilch yn Stadio Monigo.

Mae'r Gweilch yn parhau i fod yn drydydd, chwe phwynt tu ôl i Leinster a phedwar y tu ôl Munster.