Diffoddwyr yn ymateb i danau gwair ar draws Cymru

  • 26 Mawrth 2017
Penrhys mountain fire Image copyright Jamie Jenkins
Image caption Tanau yn Rhondda Cynon Taf nos Sadwrn

Mae diffoddwyr tân wedi bod yn ymateb i nifer o danau gwair ar draws Cymru dros y penwythnos.

Dechreuodd adroddiadau gyrraedd y gwasanaethau brys brynhawn Sadwrn, fod tiroedd yn llosgi ar fynyddoedd Penrhys yn Rhondda Cynon Taf.

Daeth mwy o adroddiadau nos Sadwrn o danau gwair ym Maesteg, Sir Pen-y-bont, Cwmparc ger Treorci, ac ar Fynydd y Rhiw ym Mhen Llŷn.

Dywedodd Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru eu bod wedi eu galw i 36 o danau gwair dros y 24 awr ddiwethaf, a bod y mwyafrif wedi eu dechrau yn fwriadol.

Mae'r gwasanaethau brys yn dweud fod gwyntiodd uchel wedi ei gwneud yn anoddach ymateb i'r tanau, ond bod y mwyafrif dan reolaeth erbyn hyn.

Image caption Bryniau Cwmparc, ger Treorci
Image copyright Jamie Jenkins
Image caption Tanau ar fynyddoedd Penrhys yn Rhondda Cynon Taf