Cyfle i grwydro arfordir Penfro ar Google Street View

  • 27 Mawrth 2017
Alex Payne o'r Parc yn ffilmio'r llwybr Image copyright Pembrokeshire coast path authority
Image caption Alex Payne o Barc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn ffilmio'r llwybr

Mae nawr modd mynd am dro yn un o barciau cenedlaethol Cymru heb symud modfedd o'ch cyfrifiadur.

Bellach mae rhan o'r Llwybr Arfordirol Cenedlaethol, yn Sir Benfro, i'w weld mewn manylder ar Google Street View.

Mae'r llwybr yn cwmpasu 186 milltir (299 km) o Lanarth i Landudoch ac mae'n tywys cerddwyr heibio clogwyni, traethau ac afonydd.

Cymerodd 28 diwrnod rhwng mis Ebrill a mis Mehefin 2016 i gwmni Google gwblhau'r gwaith o ffilmio'r llwybr.

Dywedodd Anthony Richards o Barc Cenedlaethol Arfordir Penfro bod y lluniau "yn dangos y parc cenedlaethol ar ei orau".

Mae Google yn bwriadu gwneud cofnod o 15 o lwybrau cenedlaethol ar gyfer y wefan.