Diffoddwyr yn dal i ddelio â thanau gwair ar draws Cymru

  • 27 Mawrth 2017
Tân ar Fynydd Penrhys yn y Rhondda Image copyright Jamie Jenkins
Image caption Roedd Mynydd Penrhys yn y Rhondda ar dân dros y penwythnos

Mae diffoddwyr yn dal i ddelio gyda thanau gwair ar draws Cymru yn dilyn penwythnos prysur.

Dywedodd Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru eu bod wedi eu galw i 16 achos ers 18:00 nos Sul.

Mae'r rhain yn cynnwys galwadau at ddau dân gwahanol ym Mhendyrus, y Rhondda, fore Llun.

Yn y gogledd, mae pedwar criw yn gorchwylio tân ar fynydd ger Llandysilio-yn-Iâl, Sir Ddinbych.

Dywedodd llefarydd eu bod yno ers tua 16:00 ddydd Sul a'u bod yn delio â'r digwyddiad o ddwy ochr.

Yn ôl Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru, maen nhw wedi delio â 33 o danau gwair dros y penwythnos.

Mae gan y Bwrdd Strategol Lleihau Llosgi Bwriadol dasglu i ddelio gyda thanau gwair, o dan yr enw Ymgyrch Dawns Glaw.