Datrys dirgelwch neidr filtroed 'Bwystfil Maerdy'

Bwystfil Maerdy Image copyright Llun BMIG
Image caption Does dim sicrwydd sut y daeth y pryf i fod yn ne Cymru

Mae arbenigwyr wedi dod i'r casgliad bod neidr filtroed, sy'n cael ei hadnabod fel 'Bwystfil Maerdy', yn rhywogaeth newydd.

Mae'r pryf brown 12mm o hyd, a gafodd ei ddarganfod yn ymlusgo dan gerrig ar dir hen lofa Maerdy, yn Rhondda Cynon Taf, yn wahanol i bedwar math arall sydd eisoes wedi eu cydnabod.

Penrhyn Iberia yw cynefin arferol y neidr filtroed. Does dim sicrwydd sut ddaeth y 'bwystfil' yma i Gymru.

Un ddamcaniaeth yw ei fod wedi cyrraedd wrth i nwyddau gael eu mewnforio ar gyfer y sector diwydiannol.

Mae'r pryf yn perthyn i'r genws Turdulisoma neu'r teulu Haplobainosomatidae.

Daeth i'r fei ym mis Rhagfyr wedi digwyddiad a gafodd ei drefnu gan aelodau mudiad sy'n ymchwilio i fioamrywiaeth hen safleoedd glofaol.

Dywedodd Steve Gregory, ar ran grŵp o wyddonwyr sy'n arbenigo ar filrhedion ac isopodau, bod rhaid cofnodi disgrifiad ffurfiol wrth gydnabod rhywogaeth newydd.

Mae grŵp BMIG yn credu taw dyma'r rhywogaeth neidr filtroed newydd gyntaf yn y Deyrnas Unedig ers 1993.

Yn ôl y grŵp, mae darganfod rhywogaeth sy'n newydd i'r byd gwyddonol ym Mhrydain yn achlysur "anarferol iawn", gan ei bod yn draddodiad ers cyfnod maith i naturiaethwyr gofnodi datblygiadau biolegol.