Brexit: Beth fydd yn bwysig i Gymru wrth i ni adael?

Theresa May

Dydd Mercher bydd y Prif Weinidog Theresa May yn rhoi gwybod i'r Undeb Ewropeaidd y bydd y Deyrnas Unedig yn gadael yr undeb.

Yna bydd y trafodaethau yn dechrau ynglŷn â'r telerau gadael, a pherthynas y DU gyda'r gwledydd eraill, proses all gymryd dwy flynedd.

Ond beth fydd yn bwysig i Gymru yn ystod y broses yma? Gohebwyr arbenigol BBC Cymru sy'n darogan.

Amaeth a'r Amgylchedd: Steffan Messenger

Cael y fargen fasnach gywir yw'r peth pwysig i ffermwyr Cymru.

Mae 90% o gynnyrch amaethyddol Cymru yn cael ei allforio i'r UE ac mae arweinwyr y byd amaeth eisiau mynediad rhydd i'r marchnadoedd mawr sydd ar garreg eu drws.

Ond mae trafodaethau ynglŷn â chytundebau newydd gyda Seland Newydd, Unol Daleithiau America ac eraill wedi codi pryderon y bydd cigoedd o dramor yn llenwi silffoedd ein harchfarchnadoedd a safonau uchel cynnyrch yn cael eu tanseilio.

Wedi degawdau o lynu wrth y Polisi Amaethyddol Cyffredin (PAC) mae'r cyfle i ail ysgrifennu'r llyfr rheolau yn cyffroi nifer.

Image copyright Getty Images
Image caption Mae nifer o ffermwyr yn gweld cyfleoedd unwaith y byddan nhw ddim yn rhan o PAC

Er hynny mae'r cwestiwn ynglŷn â phwy fydd yn cymryd yr awenau - Llywodraeth y DU neu Lywodraeth Cymru - dal heb ei ateb.

Mae miloedd ar filoedd o reolau a rheoliadau i'w datod yn y maes amgylcheddol gyda'r mwyafrif o gyfreithiau gyda'u gwreiddiau ym Mrwsel.

Bydd craffu manwl gan y rhai sydd yn cefnogi ac yn gwrthwynebu Brexit ar unrhyw gynlluniau i newid deddfau sydd yn amddiffyn yr amgylchedd.

Economi: Brian Meechan a Sarah Dickins

Cymru yw un o'r rhannau o'r DU sydd wedi cael y gyfran fwyaf o arian o'r UE er mwyn tyfu'r economi, cynhyrchu mwy o swyddi a gwella safonau byw.

Mae'r arian wedi ei wario ar ystod eang o gynlluniau yng ngorllewin Cymru a'r cymoedd gan gynnwys gwella ffyrdd a rhaglenni i adfywio cymunedau.

Mae rhaglenni Llywodraeth Cymru i roi sgiliau i bobl i gael mynediad i waith hefyd wedi derbyn rhywfaint o arian gan yr UE.

Dyw gadael ddim yn golygu bydd y rhaglenni yma yn dod i ben ond mae eu nawdd a'u dyfodol yn fwy ansicr.

Mae busnesau sydd yn cyflogi mewnfudwyr o Ewrop eisiau gwybod sut y bydd y sgiliau yma yn cael eu datblygu o fewn gweithlu Prydain.

Cwestiwn arall yw os fydd dinasyddion yr UE sydd yn gweithio yma yn cael aros a pharhau i weithio, ac os fydd eraill yn cael dod i'r DU ar ôl Brexit.

Image caption Mae Airbus yn gwneud eu hadenydd awyren ym Mrychdyn, Sir y Fflint

Oherwydd y farchnad sengl mae Cymru wedi bod yn lle deniadol i gwmnïau dros y dŵr i wneud cynnyrch a'u gwerthu ar draws Ewrop.

Os nad yw'r DU yn rhan o'r farchnad sengl bydd angen cytundebau newydd ar reoliadau a thollau ac fe allai hyn effeithio penderfyniadau busnesau.

Mae rhai cwmnïau lle mae'r perchnogion wedi eu sefydlu ar draws Ewrop, fel Airbus, sy'n cynhyrchu adenydd awyren yn Sir y Fflint ac yn eu cludo i Toulouse yn Ffrainc.

Mae'r busnes wedi dweud wrth wleidyddion bod pryder na fyddan nhw'n gallu parhau i gludo staff ar awyren ym Mhrydain fel eu bod yn gweithio yn Toulouse y diwrnod wedyn.

Ond mae Llywodraeth y DU wedi dangos arwyddion y byddan nhw'n ceisio cael trefniadau arbennig ar gyfer sectorau allweddol.

Addysg: Colette Hume

Image copyright Getty Images
Image caption Mae nifer y ceisiadau i astudio ym Mhrydain gan bobl o Ewrop wedi cwympo, yn ôl UCAS

Mae myfyrwyr rhyngwladol yn dod ag arian mawr i brifysgolion Cymru, ac mae pryderon ynglŷn ag effaith gadael yr UE ar nifer y myfyrwyr rhyngwladol sy'n dewis astudio yma.

Yn ôl UCAS mae cwymp o 7% wedi bod yn nifer y ceisiadau o'r UE i astudio ym Mhrydain eleni.

Mae prifysgolion yn dweud ei bod dal rhy gynnar i ddweud beth yn union fydd goblygiadau gadael o ran datblygiad ac ymchwil.

Ond mae'n anorfod y bydd effaith, a chwestiwn arall yw a fydd academyddion rhyngwladol yn dewis mynd a'u sgiliau i sefydliadau yn Ewrop pan fydd yr arian o'r undeb yn dod i ben?

Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Owain Clarke

Mae data swyddogol yn dangos bod tua 6% o ddoctoriaid sy'n gweithio yng Nghymru wedi cymhwyso mewn gwlad arall o'r Undeb Ewropeaidd, ac mae problemau recriwtio mewn ardaloedd yng Nghymru.

Bydd angen i Lywodraeth y DU wneud yn glir beth yw ei bwriad am os fydd dinasyddion Ewropeaidd yn gallu gweithio yn y sector iechyd a gofal.

Image caption Cerdyn yswiriant iechyd Ewropeaidd sy'n cael ei ddefnyddio gan bobl ar eu gwyliau ar hyn o bryd

Bydd cwestiynau hefyd am ddefnydd dinasyddion o'r UE o'r gwasanaeth iechyd, i'r Cymry sy'n byw yn Ewrop, a'r trefniadau o ran gofal iechyd i dwristiaid.

Fel gweddill Prydain bydd gweithwyr GIG Cymru yn cadw llygad barcud ar gyfarwyddiadau oriau gwaith Ewropeaidd oherwydd yr effaith y gallai hynny gael ar eu cyflog, rota a chytundebau.

Yn ogystal bydd manteision ac anfanteision i unrhyw newidiadau i reoliadau meddyginiaethau a threialon clinigol.

Diwylliant: Huw Thomas

Mae adroddiad diweddar gan gyn gadeirydd Opera Cenedlaethol Cymru ac aelod blaenllaw o'r ymgyrch i Aros, Geraint Talfan Davies, wedi awgrymu bod o leiaf £2.3m o arian Ewropeaidd i fod i gael ei wario ar brosiectau diwylliannol yng Nghymru erbyn 2020.

Ond mae Mr Davies, oedd yn gyn rheolwr BBC Cymru, yn dweud bod hi'n anoddach i fesur y buddiannau o gyfleoedd eraill fel arian ar gyfer y consortia rhyngwladol.

Image caption Mae Geraint Talfan Davies wedi bod yn flaenllaw yn yr ymgyrch i aros yn rhan o'r Undeb Ewropeaidd

Mae'n dadlau bod angen canolbwyntio yn ystod trafodaethau Brexit ar wneud yn siŵr bod y DU yn parhau yn rhan o raglenni UE diwylliannol "am resymau celfyddydol cymaint â rhesymau ariannol

Yn anecdotaidd mae rhai agweddau o'r diwydiannau celfyddydol yn elwa.

Dwi wedi cael gwybod bod y gostyngiad yn werth y bunt wedi helpu allforio ac annog cytundebau gyda phrynwyr tramor mewn meysydd fel ffilm ac animeiddio.

Ond mae gallu parhau i fasnachu gyda phartneriaid yn yr undeb a pheidio cyfyngu ar hawl cwmnïau sydd ar daith a pherfformwyr i allu teithio yn uchel ar restr dymuniadau'r rhai sydd yn gweithio yn y byd celfyddydol.