Y cynghorwyr gobeithiol yn yr etholiadau lleol

blwch pleidleisio

Mae cynadleddau'r gwanwyn ar ben am flwyddyn arall.

Yn ystod y cyfnod bu Cymru Fyw yn siarad â rhai o'r gwleidyddion sydd yn cynrychioli'r pleidiau yn yr etholiadau lleol ym mis Mai.

Mae'n gyfnod lle mae gan y pleidiau i gyd resymau i fod yn obeithiol - cyn i'r etholwyr fwrw eu pleidlais.

Ond hefyd mae'n gyfnod gwleidyddol anarferol.

Wedi canlyniad annisgwyl refferendwm Brexit fe allai hi fod yn ddoeth disgwyl yr annisgwyl.

Mae'r cannoedd o ymgeiswyr annibynnol yn eu plith yn gobeithio y gallai hynny fod yn fantais iddyn nhw.

Yn eu plith mae John Davies.

"Ethol unigolyn ydych chi'n y pendraw felly dwi ddim yn credu bod ymgyrchu gyda chymanfa ganu y tu ôl i chi'n helpu."

"Peth lleol yw gwleidyddiaeth yn y pendraw ac ar sail hynny mae'r pwyslais ar yr unigolyn."

Image caption Mae John Davies yn rhagweld llwyddiant i ymgeiswyr annibynnol eleni

Yn wir, ar drothwy etholiad arall mae John Davies yn credu y dylai ymgeiswyr annibynnol ar draws y wlad edrych ymlaen at Fai'r 4ydd yn llawn gobaith o ystyried yr hinsawdd wleidyddol ar hyn o bryd.

"O edrych ar yr etholiadau i ddod mae'n bosib bod gobeithion gwleidyddion annibynnol yn well," meddai.

"Pan chi'n ystyried beth sy'n digwydd ar draws y byd, a Brexit a Trump, mae'n glir bod pobl yn colli ffydd mewn pleidiau traddodiadol a'r dosbarth gwleidyddol."

Mae twf a thrafferthion diweddar UKIP yn un o'r ffactorau allai ddylanwadu ar ansicrwydd gwleidyddol 2017.

Ac mae Ken Rees o UKIP yn cydnabod bod hi'n gyfnod o ansicrwydd.

"Mae diwrnod yn amser hir mewn gwleidyddiaeth, ond ni'n gobeithio 'neud marc.

"Be sy'n fy mhoeni, mae pobl yn dechrau troi cefn ar wleidyddiaeth. Ac mae pobl yn llyncu gormod o gelwyddau."

Image caption Mae Ken Rees yn bryderus am "fake news"

"Mae camarwain yn mynd ymlaen yn y media, be maen nhw'n alw e? Fake news?"

Wrth i'r trafodaethau rhyngwladol Brexit ddechrau o ddifrif mae'n anochel mai Ewrop fydd un o bynciau mawr yr etholiadau.

Ar begwn arall gwleidyddiaeth mae'r Democratiaid Rhyddfrydol yn gobeithio manteisio ar bryderon pobl am ganlyniadau Brexit.

"Mae wedi bod yn gyfnod anodd yn y pum, chwe, saith mlynedd diwethaf, ac mae'r blaid wedi cymryd camau yn ôl yn anffodus oherwydd penderfyniadau gafodd eu gwneud pan oedden ni'n rhan o lywodraeth y glymblaid yn San Steffan, " meddai Mark Cole.

"Ond ers y refferendwm mae'r blaid Brydeinig ac yng Nghymru wedi cynyddu mewn niferoedd, ac ry'n ni wedi ennill isetholiadau cyngor ar draws y wlad

Image caption Bydd pobl yn symud ymlaen ar ôl son am Brexit meddai'r Ceidwadwr Aled Davies

Nid pawb fydd yn pwysleisio Brexit fodd bynnag.

Yn ôl y Ceidwadwr Aled Davies: "Siŵr iawn fydd pobl yn sôn amdano ond yn sydyn iawn, fyddan nhw ddim yn anghofio amdano ond yn symud ymlaen i sôn am y gwasanaethau mae cynghorau sir yn gallu cyflawni," meddai Mr Davies.

Ac mae hynny yn thema sydd yn cael ei adlewyrchu gan y pleidiau eraill hefyd - pwyslais ar waith dyddiol yr awdurdodau - sydd yn aml yn gorfod dod o hyd i ffyrdd newydd o gyflenwi gwasanaethau gyda llai o arian

Yn ôl Mair Rowlands, Plaid Cymru, gwarchod gwasanaethau ar gyfer y bobl fwyaf bregus yw'r flaenoriaeth, ond law yn llaw â hynny parhau i gynnig "gwasanaethau rhagorol mewn ambell i achos".

Mae'n cydnabod hefyd bod angen edrych ar fodelau mwy amgen ac asesu os oes modd darparu gwasanaethau yn fwy effeithiol yn y dyfodol.

Image caption Darparu gwasanaethau da gyda llai o adnoddau yw'r her yn ôl Mair Rowlands, Plaid Cymru

Mae Huw Thomas o'r Blaid Lafur yn adleisio hynny- pwysleisio gwasanaethau ac anghenion lleol.

"Yn gyffredinol mae pob ymgyrch yn targedu'r sawl ry'ch yn ei gynrychioli.

"Yn anorfod mae etholiadau lleol yn canolbwyntio ar faterion lleol.

"Beth sy'n bwysig i'r etholwyr yw bod cynghorwyr yn gwneud yr hyn sydd o fewn eu gallu, dylanwadu ar yr hyn y maent yn gallu dylanwadu arno a dim addo mwy na hynny."