Brexit: CBI Cymru'n galw am hawl i aros i weithwyr o'r UE

  • 28 Mawrth 2017
Cymru a'r UE Image copyright Thinkstock

Dylai gweithwyr o'r Undeb Ewropeaidd gael yr hawl i aros yn y DU yn dilyn Brexit a dylid osgoi rhwystrau masnach, yn ôl corff busnes CBI Cymru.

Dywedodd hefyd y dylai sicrhau bod marchnad sengl rhwng Cymru, Lloegr, Yr Alban a Gogledd Iwerddon fod yn flaenoriaeth.

Mae'r corff yn ysgrifennu at bob AS, AC ac ACE i amlinellu'r hyn y mae cwmnïau eu hangen o'r trafodaethau i adael yr Undeb Ewropeaidd.

Mae'r ffigyrau diweddaraf yn dangos bod 67% o allforion Cymru yn mynd i'r UE.

Yr Almaen (24%) a Ffrainc (16%) yw'r marchnadoedd rhyngwladol mwyaf i allforion Cymru, gyda'r Unol Daleithiau yn drydydd (13%).

Image copyright Toyota
Image caption Mae 67% o allforion Cymru yn mynd i'r Undeb Ewropeaidd

Mae'r llythyr wedi'i arwyddo gan gadeirydd CBI Cymru, Michael Plaut, gyda chefnogaeth gan gyngor busnesau sy'n cynnwys rhai o gwmnïau mwya'r wlad.

Mae'r llythyr yn dweud: "Rydym ni'n byw mewn byd sy'n gystadleuol yn fyd-eang, ac mae'n bwysig nad yw busnesau yng Nghymru ar eu colled o ganlyniad i gytundeb gadael yr UE a ystyriwyd ac a negodwyd yn wael.

"Mae economi Cymru wedi'i hadeiladu ar waith caled cwmnïau yng Nghymru a'r cyfoeth a grëir ganddynt.

"Byddai'n siomedig pe na fyddai pryderon cymuned fusnes Cymru ar frig yr agenda yn ystod trafodaethau ynglŷn â gadael yr UE."

Dechrau'r broses

Mae disgwyl i Lywodraeth y DU danio Erthygl 50 ddydd Mercher, fydd yn dechrau'r trafodaethau i adael yr Undeb Ewropeaidd.

Ddydd Llun, fe wnaeth y Prif Weinidog Theresa May deithio i gwrdd â Phrif Weinidog Yr Alban, Nicola Sturgeon, sydd wedi galw am ail refferendwm ar annibyniaeth yno oni bai bod trefniadau arbennig yn cael eu gwneud.

Mae trafodaethau hefyd yn cael eu cynnal am ddyfodol y berthynas fasnachol rhwng Gogledd Iwerddon, wnaeth bleidleisio i aros yn yr UE fel Yr Alban, a Gweriniaeth Iwerddon.

Image caption Mae'r llythyr wedi'i arwyddo gan gadeirydd CBI Cymru, Michael Plaut

Yn eu llythyr, mae CBI Cymru yn dweud mai'r pedair blaenoriaeth ar gyfer cwmnïau yw:

  • Osgoi rhwystrau rhag masnachu - "Mae'n rhaid i Lywodraeth y DU lunio cytundeb uchelgeisiol gyda'r UE sy'n sicrhau ein bod ni'n osgoi rhwystrau newydd rhag masnachu ac yn dilyn llwybr llyfn lle nad oes perygl syrthio dros ddibyn."
  • Sicrhau sefydlogrwydd o'r cychwyn cyntaf - "Mae angen i fusnesau wybod pa reolau a rheoliadau y byddant yn eu dilyn y diwrnod y bydd y DU yn gadael yr UE."
  • Caniatáu i staff o'r UE aros - "Mae cwmnïau yng Nghymru yn cyflogi miloedd o bobl o bob rhan o'r UE. Mae angen rhoi sicrwydd ar frys i'r aelodau staff gwerthfawr hyn y byddant yn gallu aros."
  • Diogelu marchnad sengl y DU - "Mae'n rhaid i Lywodraeth y DU a'r llywodraethau datganoledig gydweithio i sicrhau ein bod ni'n cadw marchnad sengl effeithiol ar gyfer y DU."

Straeon perthnasol