Posibilrwydd o waharddiad hirach i Neil Taylor

Cymru Image copyright Getty Images
Image caption Cafodd Neil Taylor ei hel o'r maes yn Nulyn am dacl fudr ar Seamus Coleman

Fe allai amddiffynwr Cymru, Neil Taylor, gael ei wahardd am fwy nag un gêm yn dilyn ei gerdyn coch yn erbyn Gweriniaeth Iwerddon.

Bydd Taylor, 28, yn sicr ddim yn nhîm Cymru i wynebu Serbia ar 11 Mehefin wedi'r dacl wnaeth dorri coes y Gwyddel, Seamus Coleman.

Ond gallai fethu tair gêm os yw Fifa yn adolygu'r digwyddiad wedi iddyn nhw dderbyn adroddiad y dyfarnwr.

Mae Gareth Bale hefyd wedi ei wahardd ar gyfer y gêm yn Serbia wedi iddo dderbyn ei ail gerdyn melyn yn yr ymgyrch i gyrraedd Cwpan y Byd 2018.