Disgwyl emoji baner Cymru ar ddyfeisiau yn ystod yr haf

Emojis baneri DU Image copyright Thinkstock | BBC
Image caption Fe fydd emoji baner Cymru'n cael ei gyflwyno wedi ymgyrch gan Jeremy Burge o Emojipedia a phennaeth cyfryngau cymdeithasol BBC Cymru, Owen Williams

Fe allai emoji baner Cymru fod ar ffonau a dyfeisiau eraill erbyn diwedd yr haf.

Mae Unicode, sy'n rheoleiddio testun cyfrifiadurol, eisoes wedi ychwanegu'r faner i'r gyfres nesaf o emojis sy'n cael eu cyhoeddi ym mis Mehefin.

Fe fydd cwmnïau fel Apple, Google, Microsoft a Facebook yn medru eu hychwanegu i'w meddalwedd ym mis Gorffennaf.

Ynghyd â baner Cymru, mae baneri Lloegr a'r Alban yn rhan o'r gyfres newydd. Mae Jac yr Undeb eisoes ar gael.