Wood yn llunio rhestr gofynion Brexit cyn tanio Erthygl 50

  • 28 Mawrth 2017
Leanne Wood Image copyright Getty/Thinkstock
Image caption Mae Leanne Wood am weld y Cynulliad yn pleidleisio ar delerau terfynol Brexit

Mae Leanne Wood wedi cyhoeddi rhestr o ofynion cyn i Theresa May danio'r broses o adael yr UE.

Yn eu mysg mae sicrhau bod Cymru'n cadw ei haelodaeth o'r farchnad sengl a bod cyllid i gymryd lle'r arian Ewropeaidd fydd yn cael ei golli.

Galwodd arweinydd Plaid Cymru hefyd am fwy o ddatganoli a diogelu hawliau dinasyddion gwledydd yr UE sy'n byw yng Nghymru.

Dywedodd y Ceidwadwyr Cymreig bod gan Lywodraeth y DU fandad i drafod telerau Brexit ar ran y DU i gyd.

Mae Llafur yn galw ar Ms May i osgoi Brexit caled neu ddiffyg cytundeb, tra bod UKIP am gael sicrwydd o oruchafiaeth Senedd y DU wedi Brexit.

'Dewisiadau synhwyrol a chymhedrol'

Bydd trafodaethau Brexit yn gallu cychwyn pan fydd Ms May yn ysgrifennu at lywydd Cyngor Ewrop ddydd Mercher.

Proses ddwy flynedd fydd honno, gyda'r gobaith o gytundeb ar delerau ymadawiad y DU o'r undeb, ac ar ffurf y berthynas yn y dyfodol.

Dywedodd Ms Wood: "Mae ein galwadau amgen Erthygl 50 yn adlewyrchu nid yn unig yr hyn sy'n bwysig i Gymru a phawb sy'n byw yma, ond yr addewidion a wnaed i bleidleiswyr gan yr ymgyrch Pleidlais i Adael.

"Maent yn cynnig rhestr i Brif Weinidog y DG o ddewisiadau synhwyrol a chymedrol nad ydynt yn mynd yn groes i'r mandad i adael yr UE ond sy'n amddiffyn ein cysylltiadau economaidd hanfodol â'r cyfandir ac sy'n adlewyrchu buddiannau Cymru a phawb sy'n byw yma."

Image copyright Getty Images
Image caption Mae'r Ceidwadwyr Cymreig yn dweud bod gan Lywodraeth y DU fandad i drafod telerau Brexit ar ran y DU i gyd

Fe ddywedodd y Ceidwadwyr Cymreig bod 'na "eironi" yn safbwynt Ms Wood.

"Fe bleidleisiodd pobl Prydain i adael yr Undeb Ewropeaidd ac fe gymeradwyodd pobl Cymru'r bleidlais honno, a rhoi mandad i Lywodraeth San Steffan i drafod ar ran y DU gyfan," meddai llefarydd.

"Mae Leanne Wood yn honni ei bod yn gweithredu er budd y wlad, ond mae eironi yn hanfod ei chais i gadw mynediad i'r farchnad sengl a'r lefelau presennol o gyllid - gan ymgyrchu ar yr un pryd am annibyniaeth o'r DU, fyddai'n cau'r tapiau ar gyfer ein gwasanaethau cyhoeddus ac yn chwalu marchnad sengl hanfodol."

'Mewn twll'

Yn ôl ASE Llafur, Derek Vaughan, mae Llywodraeth y DU wedi "rhoi ei hun mewn twll drwy osod amodau sy'n awgrymu ein bod yn wynebu Brexit caled neu dim cytundeb".

Dywedodd y byddai hynny'n "drychinebus" i Gymru.

"Mae'n bryd i Theresa May wneud yr hyn sydd orau i Gymru a'r DU yn lle ceisio plesio'r dde eithafol ar draul ein dyfodol."

Mae UKIP wedi cyhoeddi "chwe phrawf allweddol i brofi bod Brexit yn golygu gadael", sy'n cynnwys sicrwydd mai'r senedd fydd "oruchaf" o ran creu cyfreithiau "heb rwystrau, amodau na chyfyngiadau ar yr hyn allai wneud yn y dyfodol".

Maen nhw wedi galw ar i'r DU gael rheolaeth lawn o'i pholisïau mewnfudo, lloches a rheoli ffiniau a moroedd, gan ychwanegu na ddylai'r DU wneud taliad terfynol i'r UE er mwyn gadael, na pharhau i dalu wedi Brexit.

Straeon perthnasol