Brexit: Beth nesaf ar ôl tanio Erthygl 50?

  • 28 Mawrth 2017
cymru a'r UE

Mae hi'n naw mis ers i bobl y Deyrnas Unedig bleidleisio i adael yr Undeb Ewropeaidd, ond 'fory fe ddaw Brexit yn realiti wrth i Theresa May ddechrau'r broses ffurfiol o adael.

Unwaith y bydd y llythyr - sy'n amlinellu bwriad y llywodraeth i danio Erthygl 50 - yn nwylo'r Cyngor Ewropeaidd fydd 'na ddim troi nôl.

Ac mae hynny'n sicr yn plesio'r rhai fel yr AS Ceidwadol, David Davies, wnaeth bleidleisio i adael.

"Gobeithio bod pawb yn mynd i fod yn glir nawr bod ni'n mynd i dynnu allan o'r Undeb Ewropeaidd, does dim dadl amdano fe," meddai.

Ystyried ffermwyr

Mae o'n awyddus i weld y llywodraeth yn sefyll yn gadarn yn y trafodaethau sydd i ddod.

"I fi mae'n bwysig iawn, iawn fod y llywodraeth yn gwneud yn glir iawn i'r gwledydd eraill yn Ewrop, pe bawn nhw ddim eisiau cael cytundeb gyda ni, y bydden ni'n jyst aros allan ac yn masnachu gyda nhw ar reolau'r WTO, fel 'dan ni'n masnachu ar hyn o bryd gyda'r Unol Daleithiau.

"Ar yr un pryd, pe baen nhw eisiau dod i ryw fath o gytundeb, 'dan ni'n hapus iawn i wneud hynny."

Image caption Byddai'r DU yn fodlon masnachu ag Ewrop ar reolau'r WTO, yn ôl David Davies

Mae Theresa May wedi dweud y byddai dim cytundeb o gwbl yn well na chytundeb gwael.

Ond mae David Davies yn cyfaddef y byddai gadael heb lunio perthynas masnach newydd gyda'r Undeb Ewropeaidd yn golygu y gallai ffermwyr Cymru gael eu taro gan dariffau uchel iawn.

"Mae rhai sectorau yn mynd i weld problemau, er enghraifft y sector ddefaid. Pe buasem ni'n cario 'mlaen dan reolau WTO mae'n bwysig iawn bod ni'n cael hynny yn ein meddwl ac yn rhoi help mewn lle."

Amheus

Dyw'r hyder yna y bydd popeth yn iawn ddim yn cael ei rannu gan Jonathan Edwards o Blaid Cymru.

"Rwy'n credu bod y Prif Weinidog yn byw mewn byd ffantasi yn bersonol - yr agwedd yw 'ni moyn ein cacen a ni moyn ei fwyta fe'," meddai.

"Dwi'n sceptical iawn - dwi'n credu y bydd yr Undeb Ewropeaidd yn edrych ar ôl buddiannau'r Undeb Ewropeaidd."

Mae o'n credu mai'r peth gorau i Gymru fyddai aros yn rhan o'r farchnad sengl, er mwyn galluogi cwmnïau i fasnachu heb unrhyw rwystrau na chostau.

Felly mae'r syniad o adael heb unrhyw gytundeb newydd gyda marchnad fwyaf Cymru yn achosi pryder mawr iddo.

Image caption Gallai methu â dod i gytundeb olygu goblygiadau "brawychus", yn ôl Jonathan Edwards

"Y peth cyntaf fydd yn cael ei drafod yw'r swm ysgaru. Mae ffigyrau o tua €60bn wedi cael eu taflu o gwmpas y lle.

Ac wrth gwrs mae gweinidogion yn y wladwriaeth Brydeinig yn dweud na fydden nhw'n talu unrhyw beth.

"Os nad oes cytundeb ar hynny dwi'n gweld yr holl drafodaethau yn dod i ben yn weddol gyflym heb unrhyw gytundeb, a bydd 'na oblygiadau economaidd brawychus i Gymru yn sgil hynny.

"Mae'n heconomi ni wedi'i selio ar y farchnad sengl a'r undeb tollau. Byddai gadael heb unrhyw strwythur neu fframwaith amgen yn ddychrynllyd o wael i'r economi Brydeinig.

"Dim ond dwy flynedd sydd 'na i ddod i gytundeb, ar dermau'r ysgariad beth bynnag, fe allai gymryd llawer hirach i gytuno ar unrhyw gytundeb masnach newydd."

'Newydd i bawb'

Does dim dwywaith mai dyma'r trafodaethau pwysicaf ac anoddaf i Brydain ei wynebu ers cenedlaethau, ac mae'r AS Llafur, Albert Owen yn credu ei bod hi'n holl bwysig fod pawb yn "rhoi gwleidyddiaeth i un ochr a dechrau siarad am beth sydd orau i Brydain a beth sydd well i bobl Prydain".

"Mae'n bwysig rŵan bod Theresa May yn gwybod beth yw'r problemau yng Nghymru, ac yn yr Alban a Gogledd Iwerddon, a'n bod ni'n cael llais dros Brydain i gyd ac nid jyst llais Theresa May a'r cabinet," meddai.

"I fod yn deg 'dan ni ddim wedi bod yma o'r blaen. Mae hwn yn beth newydd i ni gyd.

"Ond mae'n rhaid i ni gydweithio ar draws y pleidiau i gael llais Cymru gref."

Image caption Dywedodd Albert Owen y byddai'n bwysig i Gymru gael llais yn y trafodaethau

Brexit yw Brexit - dyna oedd galwad cynnar a chyson Theresa May.

Erbyn hyn mae hi wedi ehangu rywfaint ar ei chynllun ar gyfer gadael, ond nid hi'n unig fydd yn penderfynu.

Mae'n rhaid iddi nawr ddod i gytundeb gyda'r 27 gwlad arall, a sicrhau cytundeb yn Senedd Ewrop - a does neb yn dadlau bod hynny yn mynd i fod yn hawdd.

Mae Prydain yn troedio tir newydd nawr, ond mae un peth yn sicr - mae'r broses hanesyddol yma'n mynd i siapio ein dyfodol am ddegawdau i ddod.