Arweinwyr Llafur yn trafod cynlluniau newydd ar ddatganoli

  • 29 Mawrth 2017
Kezia Dugdale, Carwyn Jones a Gordon Brown Image copyright Canolfan Llywodraethiant Cymru
Image caption Kezia Dugdale, Carwyn Jones a Gordon Brown yn y cyfarfod ddydd Mercher

Mae gwleidyddion amlwg o'r blaid Lafur yn cyfarfod yng Nghaerdydd ddydd Mercher i geisio llunio polisïau newydd ar ddatganoli.

Y prif weinidog Carwyn Jones sy'n cadeirio cyfarfod cyntaf y tasglu datganoli, gyda chymorth cyn-brif weinidog y DU, Gordon Brown, ac arweinydd Llafur yn yr Alban, Kezia Dugdale.

Mae'r trafodaethau yn sail ar gyfer confensiwn cyfansoddiadol fydd yn edrych ar sut y bydd pŵer gwleidyddol yn cael ei ddefnyddio ar ôl Brexit.

Daw hynny wrth i Theresa May ddechrau'r broses ffurfiol o danio Erthygl 50 - a diwrnod wedi i Senedd Yr Alban bleidleisio o blaid rhoi caniatâd i gynnal ail refferendwm ar annibyniaeth.

Pwerau'n dychwelyd

Gobaith Llafur yw y bydd y broses yn arwain at weledigaeth wahanol fydd yn perswadio etholwyr i beidio â chefnogi'r SNP.

Dywedodd y blaid y byddan nhw'n edrych ar opsiynau ar gyfer perthynas ffederal newydd rhwng gwledydd a rhanbarthau'r DU.

Dyw'r trefniadau cyfansoddiadol presennol "ddim bellach yn gweddu", medden nhw.

Ychwanegodd y blaid y bydden nhw'n gwrthwynebu unrhyw ymgais gan Whitehall i "gipio pwerau yn ôl" os oes pwerau sydd yn dychwelyd o Frwsel yn cael eu cadw yn Llundain yn hytrach na'u trosglwyddo i'r llywodraethau datganoledig yng Nghaerdydd, Caeredin a Belfast.

'Taclo anghyfartaledd'

Bydd Llafur hefyd yn edrych ar ddosbarthu mwy o bwerau i ranbarthau Lloegr yn ogystal â diwygiadau yn San Steffan, gan gynnwys troi Tŷ'r Arglwyddi yn Senedd etholedig.

Mae Mr Jones wedi galw ers sbel am ymgynghoriad eang ar y cyfansoddiad fel ffordd o gadw'r DU gyda'i gilydd.

Mewn datganiad dywedodd y blaid: "Dim ond drwy roi grym i'r cenhedloedd a'r rhanbarthau y gallwn ni daclo anghyfartaledd cymdeithasol, economaidd a chyfansoddiadol y wlad - ac uno'n teyrnas sydd wedi ei rhannu'n sylweddol.

"Roedd pleidlais Brexit yn rhannol yn wrthryfel blin gan ranbarthau Prydain sy'n teimlo eu bod wedi cael eu gadael ar ôl, yn erbyn elît ariannol, diwylliannol a gwleidyddol y wlad.

"Wrth wraidd hyn i gyd mae anghyfartaledd economaidd dwfn sydd yn creu rhaniadau o fewn y DU."