Ymchwiliad llofruddiaeth: Arestio dyn

Clôs Cilgant Image copyright Google
Image caption Cafodd yr heddlu eu galw i Glôs Cilgant yn Wrecsam fore Llun

Mae Heddlu'r Gogledd wedi arestio dyn o Wrecsam maen nhw am ei holi ar amheuaeth o lofruddiaeth.

Bu'r heddlu yn chwilio am James Lee Davidson, 25, ar ôl i gorff Anthony Churton, 67 oed gael ei ddarganfod yn ei gartref.

Cafodd yr heddlu eu galw am 08:23 fore Llun i gyfeiriad ar Glôs Cilgant yn Wrecsam.

Mae tri o bobl eraill hefyd wedi eu harestio fel rhan o'r ymchwiliad ar amheuaeth o gynorthwyo troseddwr.