Dynes wedi marw wythnos wedi iddi gael ei tharo gan gar

  • 29 Mawrth 2017
Pamela Lancaster Image copyright Llun teulu/Google
Image caption Cafodd Pamela Lancaster ei tharo gan y car ar Clarence Place yng Nghasnewydd

Mae dynes wedi marw yn yr ysbyty bron i wythnos ar ôl iddi gael ei tharo gan gar yng Nghasnewydd.

Cafodd Pamela Lancaster, 47 oed o'r ddinas, ei tharo gan gar Ford Focus yn y digwyddiad ddydd Iau diwethaf.

Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad ar Clarence Place tua 13:30.

Cafodd ei chymryd i Ysbyty Athrofal Cymru yng Nghaerdydd ond mae hi bellach wedi marw o'i hanafiadau.

Mae Heddlu Gwent yn apelio i unrhyw un sydd â gwybodaeth am y digwyddiad i gysylltu â'r llu.