Cofio Gwilym Prys-Davies

  • 29 Mawrth 2017
Yr Arglwydd Gwilym Prys Davies fu farw yn 93 oed Image copyright Catrin Waugh
Image caption Yr Arglwydd Gwilym Prys-Davies fu farw yn 93 oed

Yn 93 oed bu farw'r Arglwydd Gwilym Prys-Davies. Roedd y gwleidydd a'r cyfreithiwr yn ymgyrchydd pybyr dros ddatganoli i Gymru.

Bu'n ymgeisydd seneddol ac ymgynghorydd i'r Blaid Lafur a cafodd ei ddyrchafu i Dŷ'r Arglwyddi yn 1983. Ar wahanol gyfnodau yn y siambr uchaf buodd yn llefarydd y blaid ar Gymru, iechyd a Gogledd Iwerddon.

Y darlledwr Huw Edwards sy'n pwyso a mesur ei gyfraniad i wleidyddiaeth Cymru:


Sgiliau arbennig

Un o feibion Llanegryn, Meirionnydd, oedd Gwilym Prys-Davies. Fe'i ganed yng Nghroesoswallt ond bu ei fagwraeth ym mherfedd y Gymru wledig, ar lannau afon Dysynni, yn sail gadarn i'w weledigaeth wleidyddol.

Credai'n gryf yn hawl y Cymry i lywodraethu eu hunain, a chredai hefyd yn eu hawl i ddefnyddio eu hiaith eu hunain ym mhob rhan o fywyd cyhoeddus.

Bu ei yrfa yn gyfuniad rhyfeddol o'r melys a'r chwerw.

Gwasanaethodd yn y Llynges yn ystod yr Ail Ryfel Byd, ac astudiodd y gyfraith ym Mhrifysgol Aberystwyth wedi hynny. Bu'n aelod o fudiad y gweriniaethwyr am gyfnod.

Yr oedd felly yn gyfreithiwr o ran galwedigaeth, a defnyddiodd ei sgiliau arbennig yn y maes hwnnw fel un o weision sifil mwyaf dylanwadol y llywodraeth Brydeinig.

Ond peidied neb â meddwl mai bywyd tawel, dinod y gwasanaeth sifil oedd bywyd Gwilym Prys.

Fe neidiodd i'r penawdau ym mis Gorffennaf 1966 pan safodd dros y Blaid Lafur yn is-etholiad Caerfyrddin, yn dilyn marwolaeth Megan Lloyd George.

Dyma un o ddigwyddiadau gwleidyddol mwyaf yr ugeinfed ganrif yng Nghymru, pan gipiwyd y sedd gan Gwynfor Evans a Phlaid Cymru.

Image caption Sgwâr Caerfyrddin dan ei sang ar ôl buddugoliaeth Gwynfor Evans yn 1966

Hynaws a chwrtais

Er bod y berthynas rhwng Gwynfor Evans a nifer o Lafurwr y cyfnod yn eithriadol o wenwynig, nid felly o gwbl fu'r hanes rhwng y ddau wladgarwr nodedig yma.

Yr oeddynt yn rhannu'r un syniadaeth a'r un weledigaeth, i bob pwrpas, ac yn ddatganolwyr pybyr ill dau. Yr oeddynt hefyd yn hynaws a chwrtais wrth reddf, yn wahanol iawn i rai o gymeriadau y cyfnod cythryblus hwnnw.

Dyma ei sylwadau treiddgar ar George Thomas yn ei gyfrol ardderchog 'Cynhaeaf Hanner Canrif' a gafodd ei chyhoeddi yn 2008:

"Bu'n gymwynaswr â'r gwan a'r anghenus a'r oedrannus a'r methedig. Ac eto, er cystal yr holl weithgarwch daionus hwn, medrai'r funud nesaf droi i fod yn ddyn bychan a milain.

"Hawdd iawn oedd pechu yn ei erbyn - ac ni faddeuai'n hawdd i'r rhai a droseddodd yn ei erbyn. Roedd yn deyrngar i'r carn ac yn was bach i Wilson. Roedd yn elyn milain i'r cenedlaetholwyr Cymreig ac yn wrthwynebydd ffyrnig i bob amlygiad o ddeffroad yr ymwybod cenedlaethol yng Nghymru.

Tueddwyd i'w gymryd yn llawer rhy ysgafn gan ei gyd-wleidyddion. Camgymeriad oedd hynny. Roedd yn wleidydd medrus a chanddo gyfrwystra'r cadno."

Image copyright Catrin Waugh
Image caption Bu yr Arglwydd Gwilym Prys-Davies yn cadw llygad barcud ar y broses ddatganoli yng Nghymru

Bu Gwilym Prys yn ymgynghorydd arbennig yn y Swyddfa Gymreig ac fe weithiodd yn agos yno gyda John Morris, Cledwyn Hughes ac eraill o fawrion Llafur yr adeg. Gwelwyd ei ddylanwad ym mywyd cyhoeddus Cymru mewn cynifer o ffyrdd.

Ef oedd yn gyfrifol am sicrhau bod y bargyfreithiwr disglair Desmond Ackner QC yn dod i gynrychioli teuluoedd Aberfan ar ôl trychineb 1966, gweithred gwbl allweddol o ran gwarchod hawliau'r teuluoedd a herio diffyg gonestrwydd y Bwrdd Glo.

Cymwynaswr y Gymraeg

Yn dilyn refferendwm datganoli 1979, bu Gwilym Prys yn un o'r ychydig Lafurwyr a ddaliodd ati i frwydro dros fesur o ddatganoli. Achos amhoblogaidd iawn, iawn oedd hwnnw bryd hynny!

Ond gellir dweud yn hyderus ei fod ef wedi chwarae rhan allweddol yn y broses o ddatblygu polisi newydd a arweiniodd yn y pen draw at refferendwm 1997 a'r fuddugoliaeth fregus honno.

Yn ei eiriau ef: "Gorfoledd oedd gweld ar derfyn y ganrif wireddu gobeithion a grisialwyd gan yr arloeswyr ar ei ddechrau."

Mae Gwilym Prys, ynghyd â'r Ceidwadwr Syr Wyn Roberts, yn cael eu cyfrif ymhlith cymwynaswyr mwyaf yr iaith Gymraeg yn y cyfnod modern.

Ar ei fenter ei hun, fel aelod o Dy'r Arglwyddi, y cafwyd y gwelliant i Fesur Llywodraeth Cymru yn 2006 a roes gydraddoldeb i'r iaith ym mywyd cyhoeddus a llywodraethiant Cymru.

Cam enfawr oedd hwn, a cham priodol gan y gwr a frwydrodd am ddegawdau i warchod hawliau'r Cymry Cymraeg.

Ymddeolodd o Dŷ'r Arglwyddi yn 2015. Cytunir mai ef oedd un o ffigurau mwyaf dylanwadol yr oes fodern yng Nghymru, ac y dylid cydnabod ei gyfraniad sylweddol i fywyd y genedl.

Image copyright Catrin Waugh