'Cynnydd sylweddol' mewn pwerau datganoledig wedi Brexit

  • 29 Mawrth 2017
May

Gallai gwledydd datganoledig y DU weld "cynnydd sylweddol" yn y pwerau sydd ar gael iddyn nhw wrth i'r DU ddechrau'r broses o adael yr Undeb Ewropeaidd.

Dyna ddywedodd y Prif Weinidog Theresa May yn Nhŷ'r Cyffredin, wrth i lythyr yn tanio Erthygl 50 gael ei roi i'r undeb ym Mrwsel.

Dywedodd y byddai'n "ymgynghori'n llawn ar ba bwerau ddylai aros yn San Steffan a pha rai ddylai gael eu datganoli i'r Alban, Cymru a Gogledd Iwerddon".

"Ond disgwyliad y llywodraeth yw mai diwedd y broses yma yw cynnydd sylweddol yn y pwerau i wneud penderfyniadau i'r llywodraethau datganoledig."

Ychwanegodd bod hwn yn "foment hanesyddol" ac yn "amser i ni ddod at ein gilydd, i fod yn unedig ar draws y tŷ yma ac ar draws y wlad".

'Heriau a chyfleoedd'

Mae Llywodraeth Cymru yn awyddus i gymryd rheolaeth o gymorthdaliadau amaeth a budd-daliadau economaidd, sydd dan reolaeth Brwsel ar hyn o bryd, pan fydd y DU yn gadael.

Wrth ymateb i danio Erthygl 50, dywedodd Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol, Elin Jones, bod Cymru a'r Cynulliad yn "wynebu heriau cymhleth a chyfleoedd".

Ychwanegodd bod gan ACau "rôl hollbwysig" i sicrhau bod "llais pobl Cymru yn cael gwrandawiad priodol" yn y trafodaethau, a bod ACau eisoes yn gweithio i "fynd i'r afael â'r cwestiynau y mae angen eu hateb".

"Fy mlaenoriaethau i yw sicrhau bod y Cynulliad yn gwneud cyfraniad llawn at gadw golwg ar y trafodaethau hyn a chraffu'n effeithiol ar Fesur y Diddymu Mawr a'r swm enfawr o ddeddfwriaeth a fydd yn dilyn."

Dywedodd llefarydd Plaid Cymru ar Brexit bod Llywodraeth y DU wedi dewis y ffordd fwyaf "eithafol" o adael yr undeb, gan ddweud bod ffordd well, ffordd "synhwyrol a chymedrol" o adael.

Ychwanegodd Jonathan Edwards: "Dywedodd y prif weinidog y byddai'n ceisio cael cytundeb dros y DU cyn dechrau trafodaethau Brexit ond yn hytrach mae hi wedi ymddwyn fel pennaeth gwladwriaeth unedol, gan anwybyddu'r ffaith ei bod yn bennaeth ar undeb o bedwar aelod."

'Diffyg parch'

Wrth ymateb, dywedodd Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones ei fod yn "anffodus iawn" nad oedd Llywodraeth Cymru wedi cael cyfrannu i lythyr Erthygl 50.

Dywedodd wrth ACau ym Mae Caerdydd ei fod wedi trafod y llythyr yn "gyffredinol" gyda Mrs May, ond nad oedd wedi ei weld cyn ddydd Mercher, ac nad oedd wedi cyfrannu at ei ysgrifennu.

Ychwanegodd ei fod yn "annerbyniol" bod llywodraethau datganoledig yn cael eu trin "yn gyson gyda diffyg parch".

Wrth drafod sylwadau Mrs May am fwy o bwerau, dywedodd y byddai'n croesawu hynny, petai'n digwydd.

Dywedodd: "Os ddim, yna bydd y llywodraeth yma yn gwrthwynebu mor gadarn a, dwi'n sicr, y bydd eraill yn y siambr."

Fe wnaeth arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig wrthod yr honiad nad oedd Mrs May wedi gwrando ar farn Cymru.

Dywedodd Andrew RT Davies bod Mrs May wedi bod i Gymru bum gwaith, gan gyhuddo Mr Jones o beidio ag ymwneud â'r mwyafrif wedi'r refferendwm.

Fe wnaeth Mr Davies hefyd groesawu ymrwymiad Mrs May i ddatganoli pellach.