Awyrendy newydd i 'arloesi' ym maes amddiffyn

Raytheon
Image caption Mae Raytheon yn dweud y bydd yr awyrendy newydd "yn caniatáu i'r cwmni ddatblygu doniau arloesol ym maes amddiffyn"

Cafodd awyrendy newydd Raytheon ym maes awyr Penarlâg ei agor yn swyddogol gan y Prif Weinidog Carwyn Jones ddydd Iau.

Mae'r cwmni wedi creu tua 50 o swyddi newydd yn y ganolfan dros y 18 mis diwethaf.

Yn ôl y cwmni, y bydd yr adnoddau newydd yn caniatáu i'r cwmni ddatblygu doniau arloesol ym maes amddiffyn yn ogystal â chyfrannu'n sylweddol i'r economi leol dros nifer o flynyddoedd.

Image caption Y Prif Weinidog Carwyn Jones yn agor y ganolfan newydd yn swyddogol

Dywedodd Ysgrifennydd Cymru, Alun Cairns, fod y buddsoddiad "yn gadarnhad o'r hyder sydd gan y cwmni yn y sgiliau a'r amgylchedd busnes sydd yng Nghymru, a'i fod yn brawf pellach fod y wlad yn agored i fusnes".

"Mae galw mawr am gynnyrch a gwasanaethau Prydeinig, a thrwy hynny, am gynnyrch a gwasanaethau yng Ngogledd Cymru," meddai.

"Fel cenedl sy'n rhan o Deyrnas Unedig gref, dydy'n proffil byd-eang ni erioed wedi bod yn uwch na hyn."